Rheolwr cynhyrchu
Disgrifiad Swydd

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu profiadol i fod yn rhan o'r tîm Creu Theatr. Gyda arbenigedd fel rheolwr cynhyrchu ar gynyrchiadau theatr o bob maint a graddfa, bydd yr unigolyn yma’n arwain ein timau ni i gyflwyno cynyrchiadau o'r safonau uchaf posibl gan Theatr Clwyd. Bydd y Rheolwr Cynhyrchu yn gweithio ochr yn ochr â'n timau Creu Theatr mewn Adeiladu Setiau, Celf Golygfaol, Goleuo, Sain a Chlywedol a Gwisgoedd a Wigiau, i helpu i greu cynyrchiadau ar gyfer y ddau ofod theatr yn ein hadeilad ni sydd newydd ei adnewyddu, ynghyd â phrosiectau a digwyddiadau ar draws ein sefydliad prysur.
Math o Gontract- Parhaol
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
Pwrpas y Swydd
Mae'r Rheolwr Cynhyrchu yn gyfrifol am reoli’r gwaith o gynhyrchu cynyrchiadau mewnol Theatr Clwyd. Bydd yn defnyddio ei lefelau sylweddol o wybodaeth a phrofiad arbenigol i gefnogi'r Pennaeth Cynhyrchu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bob rhanddeiliad.
Cyfrifoldebau allweddol
Cyffredinol
- Rheoli’r gwaith o gynhyrchu cynyrchiadau Theatr Clwyd yn ôl yr angen.
- Cydlynu a goruchwylio safon uchel o gyflwyno golygfeydd, propiau, gwisgoedd, goleuadau, sain a phob agwedd arall ar gynhyrchu ffisegol o fewn briffiau, cyllidebau ac amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Bod yn atebol am ganlyniadau a gwneud penderfyniadau ar ran y Tîm Cynhyrchu a'r timau technegol a chynhyrchu.
- Defnyddio dull creadigol a blaengar o ddatrys problemau i sicrhau bod y tîm yn cydweithio'n hapus, yn effeithiol ac yn gefnogol o fewn y sefydliad cyfan.
- Rheoli'r swyddi cynhyrchu llawrydd sy’n rhan o sioeau mewnol yn ôl yr angen.
- Bod yn gyfrifol am gyllid, rheoli ymchwil ac adrodd ariannol ar gyfer cyllidebau cynhyrchu Theatr Clwyd a dirprwyo elfennau o’r cyfrifoldeb cyllideb cynhyrchu i gydweithwyr yn ôl yr angen.
Y Person
Hanfodol
- Dyfinder sylweddol o sgil a phrofiad mewn rheoli cynhyrchu mewn theatr gynhyrchu a / neu gymhwyster lefel gradd / cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Profiad clir o reoli timau.
- Profiad clir o reolaeth ariannol gan gynnwys adrodd cyllidebol ac ariannol.
- Sgiliau drafftio rhagorol a phrofiad helaeth o ddefnyddio meddalwedd CAD
- Gwybodaeth ymarferol drylwyr am ddeddfwriaeth drwyddedu ac Iechyd a Diogelwch.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.