Rheolwr cyllid
Disgrifiad Swydd

Ydych chi'n arbenigwr ar rifau sydd ag angerdd mawr dros y celfyddydau?
Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Cyllid i ymuno â'n tîm ni. Mae hwn yn gyfle gwych i chwarae rhan hanfodol wrth i Theatr Clwyd ailagor ei drysau yn dilyn ailddatblygiad mawr.
Math o Gontract- Parhaol
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
Pwrpas y Swydd
Mae'r Rheolwr Cyllid yn gyfrifol am redeg y swyddogaeth Gyllid o ddydd i ddydd o fewn grŵp Cwmnïau Theatr Clwyd. Mae’n gweithio gyda'r Rheolydd Ariannol i gydlynu strategaeth ariannol Theatr Clwyd, sydd wedi’i chysylltu ag ethos a gweledigaeth artistig y cwmni. Mae'r rôl yn mynnu cyfrifoldeb personol, barn a blaengaredd, gyda gwybodaeth arbenigol am gyllid mewn cyd-destun celfyddydol. Bydd ef / hi'n dirprwyo ar ran y Rheolydd Ariannol fel sy’n briodol. Mae'r Rheolwr Cyllid yn hwylusydd rhagorol gydag ymrwymiad clir i ddulliau gweithio rhesymegol a chreadigol sy'n cael eu harwain gan ganlyniadau
Cyfrifoldebau allweddol
- Sicrhau bod terfynau amser diwedd mis yn cael eu bodloni yn unol â'r amserlen gau fisol a chyflawni prosesau diwedd mis yn Xledger.
- Cynhyrchu rhagolwg incwm a gwariant ac alldro cwmnïau sy’n ymweld misol ar gyfer y cyfrifon rheoli. Sicrhau bod pob agwedd ar gostau ac incwm yn cael eu cynrychioli'n gywir yn y system gyfrifon (gan gynnwys postio croniadau a gohiriadau priodol) a chynhyrchu amserlen gyfraniadau fisol Cwmnïau Sy’n Ymweld i'r Rheolydd Ariannol a'r Cyfarwyddwr Cynhyrchu.
- Cynnal gwybodaeth a rhagolygon Dadansoddiad Cynhyrchu, gan gysylltu â'r Adran Gynhyrchu lle bo hynny'n briodol.
- Helpu i baratoi'r adroddiadau rheoli misol (symiau gwirioneddol a rhagolygon treigl) ar gyfer incwm a gwariant, risgiau a chyfleoedd.
- Gweithio gyda'r Rheolydd Ariannol i sicrhau bod prosesau a systemau cyllid yn addas at y diben o ran effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, cefnogaeth fusnes, adrodd a mesurau rheoli effeithiol.
- Llunio a chyflwyno'r cyflwyniad PRS chwarterol.
- Cyfrifo ffigurau COS masnachu misol a symudiad stoc cyfnodolyn i'r llyfr cyfrifon
- Cynhyrchu adroddiadau swyddfa docynnau cwmnïau sy’n ymweld.
- Sicrhau bod rhwymedigaethau Theatr Clwyd yn cael eu bodloni o ran TAW a Chymorth Rhodd.
- Cefnogi'r Rheolydd Ariannol i baratoi'r Datganiadau Ariannol o dan SORP, gan gynnwys cymhwyso safonau cyfrifo a datrys materion archwilio.
Y Person
Hanfodol
- Cymhwyster cyllid perthnasol naill ai yn llawn neu'n rhannol.
- Profiad o gyfrifeg rheoli, rhagweld llif arian a chyfrifon statudol diwedd blwyddyn.
- Gwybodaeth glir am faterion trethiant (yn enwedig Treth Incwm, Yswiriant Gwladol, TAW a Chymorth Rhodd) a'r gallu i ehangu'r wybodaeth honno yn ôl yr angen.
- Profiad clir o ragweld, cyllidebu a chynllunio ariannol.
- Dealltwriaeth o gyllid a systemau cyllid.
- Meddwl creadigol ac arloesol mewn perthynas â datrys problemau.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r hyder i wneud cyfraniad llawn at gyfeiriad cyffredinol y sefydliad.
- Y gallu i weithio'n fanwl gywir gyda sylw rhesymegol i fanylion.
- Agwedd gyfeillgar a phroffesiynol.
- Sgiliau TG rhagorol gyda lefel uchel o gymhwysedd yn Excel.
- Y gallu i fod yn aelod effeithiol o dîm ac ymgysylltu â holl weithgareddau’r theatr.
- Dull hyblyg, ymarferol o weithio gydag agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i ddysgu.
- Ymrwymiad i ragoriaeth artistig.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.