Dirprwy Reolwr Profiad
Disgrifiad Swydd

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Ddirprwy Reolwr Profiad i fod yn rhan o'n tîm Profiad Ymwelwyr. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn ysbrydoli ein tîm Croeso a'n gwirfoddolwyr i ddarparu awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. Mae gan y Dirprwy Reolwr Profiad gyfrifoldeb cyffredinol am gynnal diogelwch Aelodau'r Cwmni ac ymwelwyr yn ein hadeilad ni. Mae hefyd yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediadau o ddydd i ddydd a sicrhau bod adroddiadau'n cael eu cwblhau'n fanwl gywir.
Math o Gontract- Parhaol
Oriau - 21 yr wythnos
Y Rôl
Pwrpas y Swydd
O dan gyfarwyddyd y Rheolwr Profiad Ymwelwyr, ysgwyddo cyfrifoldeb gweithredol am y profiad blaen tŷ, gan sicrhau gwasanaeth cyson ddiogel, effeithlon ac o safon uchel i bob ymwelydd ac aelod o'r cwmni.
Cyfrifoldebau allweddol
Blaen Tŷ a Gweithrediadau
- Cyfrannu at gyfathrebu a chydweithredu da ar draws pob Teulu i sicrhau bod perthnasoedd gwaith rhagorol yn cael eu meithrin.
- Sicrhau bod Croeso Clwyd yn cael ei gyflwyno gan y tîm Profiad.
- Cymell, arwain drwy esiampl a goruchwylio'r tîm Profiad, gan gynnwys gwirfoddolwyr, yn ddyddiol drwy gynnal y safon uchaf o gyflwyno; dangos agwedd gadarnhaol; delio'n brydlon ac yn broffesiynol gydag unrhyw geisiadau a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i bawb.
- Briffio aelodau'r tîm Profiad, a’r gwirfoddolwyr, fel bod modd rhannu gwybodaeth hanfodol.
- Goruchwylio'r Ddesg Groeso i gefnogi'r tîm Profiad i greu amgylchedd croesawgar.
Trwyddedu, lechyd a Diogelwch
- Sicrhau bod pob canllaw statudol ar gyfer tân, diogelwch, Iechyd a Diogelwch a pholisïau a gweithdrefnau brys yn cael eu dilyn bob amser.
- Sicrhau bod rheoliadau trwyddedu ac Iechyd a Diogelwch yn cael eu dilyn bob amser.
- Goruchwylio a mynychu ymarferion tân, a gyda’r Rheolwr Profiad Ymwelwyr, sicrhau bod pob aelod o’r tîm Profiad yn gyfarwydd â’r weithdrefn gywir, a bod aelodau'r tîm yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth tân rheolaidd.
Y Person
- Profiad ymarferol mewn rôl weithredol sy'n delio â chwsmeriaid mewn lleoliad diwylliannol, atyniad ymwelwyr, amgylchedd arlwyo, manwerthu, gwesty, bwyty, bar neu amgylchedd lletygarwch arall a / neu gymhwyster cydnabyddedig priodol.
- Dangos angerdd dros weithio yn y sector celfyddydau perfformio.
- Profiad o oruchwylio a chymell ac ysbrydoli aelodau’r tîm rheng flaen (staff a gwirfoddolwyr) yn gadarnhaol drwy arferion gwaith rhagorol.
- Gwybodaeth am ofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a gweithio gyda chynulleidfaoedd / ymwelwyr ag anableddau.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.