Cynhyrchydd
Disgrifiad Swydd

Bydd y Cynhyrchydd yn rhan o’r teulu Creu Theatr ac mae'n un o gynhyrchwyr llinell cynyrchiadau Theatr Clwyd gartref ac ar daith. Bydd yn defnyddio gwybodaeth arbenigol sylweddol am gynhyrchu theatr, a dull creadigol o wneud hynny, i gefnogi'r Cyfarwyddwr Cynhyrchu i Gyflwyno'r gwaith sydd wedi’i raglennu ar draws yr adeilad a thu hwnt.
Math o Gontract- Parhaol
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
Cyffredinol
- Cyfrannu at y strategaeth a'r cyfeiriad cyffredinol drwy wneud argymhellion i'r Cyfarwyddwr Cynhyrchu ar gynlluniau strategol, blaenoriaethau ac atebion arloesol.
- Bod yn atebol am reoli cyllideb o fewn y Tîm.
- Sicrhau bod y Tîm Cynhyrchu’n gwneud cyfraniad sylweddol at lwyddiant cyffredinol Theatr Clwyd ac at fyd y celfyddydau ledled y DU.
- Annog cymryd risgiau, gwaith caled a meddwl yn greadigol a hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chefnogol.
- Arwain drwy esiampl, gan gyfathrebu, dylanwadu a hyrwyddo ethos y cwmni a safonau rhagorol Theatr Clwyd.
Cynhyrchu Llinell
- Cymryd yr awenau ar amserlennu prosiectau a gyrru'r broses gyflwyno yn ei blaen, unwaith bydd y Cyfarwyddwr Cynhyrchu, y Cyfarwyddwr Gweithredol a'r Cyfarwyddwr Artistig wedi sefydlu'r cyd-destun a'r strwythur cynhyrchu.
- Bod yn gyfrifol am greu cyllidebau cynhyrchu ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwr Cynhyrchu, y Cyfarwyddwr Gweithredol a'r Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau a Phobl, a chysylltu â hwy ar bob agwedd ar gyfrifon cynhyrchiad.
- Mewn cydweithrediad â'r Cyfarwyddwr Cynhyrchu, arwain ar gontractio a thrafod, gan gynnwys gwaith ymweld, cytundebau cydgynhyrchu a chomisiynau.
- Mynychu a chymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd cynhyrchu a bod yn bwynt cyswllt cyntaf i Dimau Cynhyrchu ar gyfer unrhyw faterion sy'n codi yn ystod y cynhyrchiad neu'r perfformiadau, gan gynnal amgylchedd adeiladol, proffesiynol a diogel ar gyfer y timau.
Arall
- Sicrhau gwybodaeth gyfredol am dueddiadau'r diwydiant drwy fynychu sioeau, cynadleddau a digwyddiadau hyfforddi a dilyn newyddion, cyfryngau cymdeithasol ac adolygiadau.
- Dilyn arferion gorau ar draws y diwydiant drwy ddatblygu a chynnal perthnasoedd gydag amrywiaeth o gynhyrchwyr eraill yn y sectorau â chymhorthdal a masnachol.
Y Person
- Profiad arbenigol sylweddol o weithio ar lefel uwch mewn rôl gynhyrchu mewn theatr gynhyrchu.
- Profiad sylweddol o gasglu a rheoli timau cynhyrchu a chreadigol.
- Profiad o drafod a drafftio contractau.
- Profiad o archebu taith.
- Enw da am reolaeth llinell, neu reoli tîm, ynghyd â'r gallu i arwain a chymell pobl.
- Sgiliau rheolaeth ariannol cadarn, gyda phrofiad o weithio gyda chyllidebau cymhleth.
- Sgiliau cyfathrebu a thrafod rhagorol, gan flaenoriaethu cyfathrebu llafar, yn enwedig mewn sgyrsiau anodd.
- Sylw rhagorol i fanylder.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.