Calonnau Clwyd
Calon Theatr Clwyd?
Dyma'ch cyfle chi i helpu i wneud gwahaniaeth.
Nawr yw moment Theatr Clwyd. Mae ein tŷ ni ar agor, mae croeso i'n cymunedau ni, mae ein syniadau creadigol ni’n aros i gael eu rhannu.
Dyma'ch gwahoddiad chi i gefnogi ein gwaith ni a bod yn rhan o'r cyfan. Dyma'ch moment chi.
Drwy rodd fisol reolaidd neu ymrwymiad blynyddol, byddwch yn dysgu mwy am ein gwaith ni ar y llwyfan ac oddi arno. Byddwn yn mynd â chi y tu ôl i'r llenni yn ogystal â chynnig cyfle i chi ddod yn nes at Theatr Clwyd drwy ddigwyddiadau a phrofiadau pwrpasol. Byddwn yn dangos i chi'r gwahaniaeth mae eich rhodd yn ei wneud.
I addo eich cefnogaeth a chofrestru, cysylltwch â lily.peers-dent@theatrclwyd.com neu ffoniwch 01352 609143
(byddwch yn gallu cofrestru drwy'r dudalen we yma yn fuan!)

Gyda'ch cefnogaeth chi…
- Gallwn gadw calon Theatr Clwyd yn curo, gan ddod â bywyd i'r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn ein cymunedau ni.
- Gallwn barhau i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda cholled cof ac,, yn hollbwysig, eu gofalwyr nhw hefyd.
- Gallwn ddarparu llefydd fforddiadwy yn ein gweithdai ni i bob person ifanc.
- Gallwn ddod â'r celfyddydau i bobl a fyddai fel arall yn llithro trwy'r bylchau fel pobl ifanc sydd ddim yn mynd i'r ysgol mwyach.
Yn dibynnu ar eich lefel o gefnogaeth, byddwn yn teilwra ein diolch.
Byddwch yn derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig, nosweithiau i westeion ar gyfer cynyrchiadau newydd neu deithiau VIP tywys y tu ôl i'r llwyfan. A byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi, gan gynnwys cipolwg unigryw ar waith Theatr Clwyd ar y llwyfan ac yn ein cymunedau ni. Byddwch yn gallu gweld y gwahaniaeth mae eich cefnogaeth wir yn ei wneud yn glir.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at lily.peers-dent@theatrclwyd.com neu ffoniwch 01352 609143.
Telerau ac amodau
Mae pob lefel rhodd yn cynnwys gwerth budd sy'n manylu ar y gost wirioneddol i Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd. Mae posib prynu'r buddion yma ar wahân. Mae unrhyw swm sy’n cael ei roi uwchlaw'r gwerth budd yma’n cael ei roi fel rhodd i gefnogi Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd (rhif elusen 1189857) ac mae'n gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd. I drafod prynu buddion ar wahân anfonwch e-bost at Janine.dwan@theatrclwyd.com.