Gall eich cefnogaeth gael effaith enfawr ar fywydau pobl sy'n byw yn ein cymuned. Drwy godi arian ar gyfer Theatr Clwyd, gallwch agor byd o ddychymyg a rhyfeddod i berson ifanc sydd heb fod mewn theatr o'r blaen neu gefnogi rhywun sy'n byw gyda chyflwr iechyd i fynychu gweithdy sy'n cefnogi eu symptomau a chael hwyl ar yr un pryd.

Dylai codi arian fod yn hwyl, felly o de prynhawn i ymgymryd â her, mae digon o ffyrdd y gallwch chi gefnogi Theatr Clwyd.

Os hoffech chi godi arian ar ein rhan, cysylltwch â development.trust@theatrclwyd.com.


Eisiau ysbrydoliaeth?

Darllenwch am Her Moel Famau Karen

Mae Karen yn un o aelodau gwych Cwmni 55 a phan glywodd ein bod yn codi arian i weithwyr llawrydd creadigol penderfynodd ei bod am helpu.

Gan berfformio'n rheolaidd yng nghynyrchiadau ein cwmni ac yn colli theatr fyw, penderfynodd mai'r ffordd orau y gallai gefnogi gweithwyr llawrydd creadigol oedd rhoi ei hesgidiau cerdded ymlaen a dringo Moel Famau bob dydd ym mis Tachwedd. Mae hyn dros 100 milltir (hanner ohonynt i fyny allt).

Wrth ymgymryd â'r her wych hon cododd £1,575 gan sicrhau bod mwy o weithwyr llawrydd yn gallu derbyn y cymorth oedd arnynt ei angen yn ystod y cyfnod hwn.

Diolch yn fawr, Karen