Lletygarwch Unigryw.

Gwnewch eich ymweliad â Theatr Clwyd yn un i'w gofio.

Ar gyfer lletygarwch corfforaethol, dathliadau neu nosweithiau allan gyda thîm, mwynhewch sioeau bythgofiadwy o gysur ein bocs preifat ni.

Ac yn fwy na hynny, mae eich pryniant o becyn yn cynnwys rhodd i Theatr Clwyd fel eich bod yn gallu mwynhau noson yn y theatr gan wybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth.

Gadewch i ni eich croesawu chi a'ch gwesteion i’n bocs preifat unigryw ni yn Theatr Moondance. Gyda lle i hyd at 12 o bobl eistedd, gallwch archebu diodydd, byrbrydau neu canapés i'w mwynhau cyn y sioe ac yn ystod yr egwyl.

Gwnewch y noson yn fwy arbennig fyth drwy fwyta yn ein bwyty godidog, Bryn Williams yn Theatr Clwyd, lle mae coginio Ffrengig yn cwrdd â chynhwysion lleol Cymreig.


Hospitality packages
O'r Ystafell Fwrdd i'r Bocs

Bocs Preifat, derbyniad pefriog gyda gwasanaeth concierge


  • Hyd at 12 o bobl yn y bocs preifat ar gyfer unrhyw berfformiad yn Theatr Moondance
  • Gwydraid o Prosecco wrth gyrraedd
  • Hufen iâ Chilly Cow yn cael ei weini i'ch bocs chi yn ystod yr egwyl
  • Rhaglenni neu daflen cast
  • Parcio wedi'i gynnwys ar gyfer hyd at 4 car
  • Croesawydd o Theatr Clwyd i sicrhau noson effeithlon
  • Rhodd i gefnogi gwaith elusennol Theatr Clwyd
£1000 + TAW
Bwyta cyn y ddrama

Bwrdd y cogydd, derbyniad pefriog a bocs preifat

Rhowch wledd i’ch gwesteion yn ein hystafell fwyta breifat ni ym mwyty Bryn Williams yn Theatr Clwyd. Byddwn yn trefnu i'r cogydd ymweld â'ch bwrdd i ddweud mwy wrthych chi am y bwyd ar eich plât. Wedyn cewch ddilyn hyn drwy wylio sioe wych yn ein bocs preifat ni yn Theatr Moondance.


  • Hyd at 12 o bobl yn y bocs preifat ar gyfer unrhyw berfformiad yn Theatr Moondance
  • Ystafell fwyta breifat ac ymweliad gan y Cogydd (mae’r prydau bwyd yn gost ychwanegol)
  • Gwydraid o Prosecco wrth gyrraedd
  • Hufen iâ Chilly Cow yn cael ei weini i'ch bocs chi yn ystod yr egwyl
  • Rhaglenni neu daflen cast
  • Parcio wedi'i gynnwys ar gyfer hyd at 4 car
  • Croesawydd o Theatr Clwyd i sicrhau noson effeithlon
  • Rhodd i gefnogi gwaith elusennol Theatr Clwyd
£1300 + TAW

Ychwanegwch at eich ymweliad gyda'r opsiynau yma:

Taith gefn llwyfan neu set £200+TAW

Cinio cyn y sioe neu fwyd bar – edrychwch ar y fwydlen am brisiau

Canapés gan Bryn Williams yn Theatr Clwyd, yn cael eu gweini i'ch bocs chi – o £20 y pen

Diodydd o'r bar yn cael eu cludo i'ch bocs chi – edrychwch ar fwydlen y bar am brisiau

Gwybodaeth Bwysig

Nid yw'r bocs preifat yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae 6 gris i fyny i'r bocs.

Rhaid archebu'r holl fwyd a diod ymlaen llaw, 3 wythnos o leiaf cyn eich ymweliad.

Mae’r archebion ar gyfer bocs preifat a bwrdd y cogydd yn amodol ar argaeledd.

Mae posib darparu ar gyfer gofynion deietegol ond rhaid i chi eu rhoi i ni 3 wythnos o leiaf cyn yr archeb.