
Dawns Ieuenctid 10, 11, 12 a 13
Nosweithiau Llun
Ymunwch â Chywaith Dawns Ieuenctid Theatr Clwyd mewn Partneriaeth â Dawns Ieuenctid Genedlaethol Cymru!
Dewch i archwilio eich creadigrwydd trwy ystod o arddulliau dawns, gan gynnwys bale, cyfoes, dawns telynegol, gwerin a masnachol gyda'n Cyswllt Dawns Angharad Jones.
Mae'r Cywaith Dawns Ieuenctid yn rhoi'r cyfle i chi ehangu eich hyfforddiant dawns a chymryd rhan mewn cyfleoedd perfformio cyffrous. Byddwch yn archwilio technegau dawns, coreograffi, perfformio a chreadigrwydd. Dyma ofod anghystadleuol i ddawnsio a mynegi eich hun trwy eich arddull symud unigryw chi.
Addas i unrhyw un sy'n caru symud!
Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond fod yn barod i roi cynnig arni.
Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?
Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025
Tymor yr Haf: Dydd Llun 28 Ebrill – Sad 5 Gorffennaf 2025
Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025
Faint mae’n gostio?
|
Bwrsari
Bwrsari
Mae'n hanfodol i ni bod ein holl grwpiau ni’n hygyrch i bawb. Mae Theatr Clwyd yn cynnig amrywiaeth o fwrsarïau i gynorthwyo gyda chefnogaeth ariannol i alluogi cyfranogwyr i gael mynediad i’n gweithdai a’n gwersi cymunedol ni.
Nid yw ein bwrsarïau ni’n destun prawf modd ond maen nhw’n cael eu rhannu fesul achos. Os hoffech chi ddangos diddordeb mewn derbyn bwrsari, llenwch ein holiadur byr ni drwy Glicio Yma a byddwn yn adolygu eich cais.
Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi rhag cymryd rhan, fel mynediad neu broblemau gyda theithio, anfonwch e-bost i box.office@theatrclwyd.com ac fe wnawn ni ein gorau glas i helpu.
| Monthly | ||
Bwrsari o 25% Lle gyda chefnogaeth | £243.00 | £20.25 | |
Bwrsari o 50% | £162.00 | £13.50 |
Gostyngiadau
Gostyngiadau Eraill o 25%:
- Gostyngiad i Frodyr a Chwiorydd (plentyn cyntaf yn talu’n llawn, ail blentyn yn cael 25% i ffwrdd)
- Ymunwch â mwy nag un grŵp
Bydd archebu’n agor ym mis Medi!
Cofrestrwch yma i fod y cyntaf i glywed am leoedd ar gael.