The Witching Hour - Llyfrgell yr Wyddgrug

See dates and times  

Adrodd Straeon, Rhyfeddod a Gwrachod!

Ydych chi'n ddigon dewr i ddatgelu cyfrinachau The Witching Hour?

Cyfle i gamu i fyd o ddirgelwch, hud, ac anturiaethau hanner nos yn y perfformiad a'r gweithdy adrodd straeon byw a hudolus yma. Yn seiliedig ar hen stori dylwyth teg Hwngaraidd ac yn dod yn fyw ar y llwyfan gan Theatr Clwyd, mae The Witching Hour yn dilyn stori gynnes Little Bill - bachgen trwsgl ond caredig iawn - sy'n cychwyn ar daith drwy goedwig dywyll, yn darganfod palas wedi'i anghofio, ac yn cyfarfod gwrach sydd, efallai, â'i chyfrinach ei hun...

Gallwch ddisgwyl chwerthin, ebychu, ac adrodd straeon hyfryd yng nghalon eich llyfrgell leol.

Cyflwynir gan ein Cyswllt Creadigol, Emyr John!

Digwyddiad talu beth allwch chi ydi hwn.