Mae'r Nadolig ar y gorwel ac mae'n edrych fel mai hwn fydd yr un gorau eto i Niko the Reindeer wrth iddo gael gwireddu ei freuddwyd fwyaf - cymryd ei le wrth ochr ei dad yn Lluoedd Hedfan Siรดn Corn. Ond mae'n wynebu cystadleuaeth annisgwyl gan Stella, heriwr newydd dirgel.
Wedyn, un noson, mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth pan gaiff sled Siรดn Corn ei ddwyn! Nawr mae'n rhaid i Niko, yng nghwmni ffrindiau hen a newydd, fentro i'r Gogledd rhewllyd ar antur feiddgar i achub y Nadolig.



