The Ice Tower Gradd 15.

See dates and times  

Oerach na rhew, mae ei chusan yn tyllu'r galon…

Y 1970au. Mae Jeanne (Clara Pacini) ar ffo ac yn cael ei hudo gan swyn Cristina (enillydd Gwobr AcademiMarion Cotillard), seren enigmatig The Snow Queen, ffilm o stori Hans Christian Andersen sy'n cael ei ffilmio yn y stiwdio lle mae Jeanne wedi cymryd lloches. Mae edmygedd o’r ddwy ochr, ond a allai fod yn beryglus, yn dechrau datblygu rhwng yr actores a'r ferch.

Stori gyfoethog ac ingol am hiraeth ac unigedd. Mae'r stori dylwyth teg fodern dywyll a chyfareddol yma’n ffilm Nadoligaidd hynod wreiddiol ac amgen sydd wedi’i rhyddhau yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Y bedwaredd ffilm gan Lucile Hadžihalilović a dangoswyd The Ice Tower am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth yng Ngŵyl Ffilmiau Berlin eleni lle enillodd y ‘Silver Bear’ am Gyfraniad Artistig Eithriadol.