Wrth i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau, mae cymdeithas gorawl mewn pentref yn Swydd Efrog yn colli ei aelodau wrth i'r dynion ifanc ymuno â'r fyddin. Gyda'r perfformiad blynyddol ar y gorwel, mae'r gymdeithas yn gorfod newid ei rheolau mynediad i recriwtio ambell berson ifanc annhebygol a hefyd Dr. Guthrie, sydd â dawn gerddorol aruthrol ond sy'n destun sgandal gymdeithasol.
Yr awdur yw Alan Bennett ac mae Ralph Fiennes yn serennu ynddi. Mae The Choral yn ddrama gomedi ysgafn sy'n dathlu cymuned a phŵer cân.
Nid yw'r lifft i'r sinema yn gweithio ar hyn o bryd. Os oes arnoch chi angen mynediad fflat, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau - 01352 344101, box.office@theatrclwyd.com.
