Dewch i gymryd rhan yn ein Hwb Haf sy'n llawn creadigrwydd, darganfod a HWYL.
Mae'r Hwb Haf yn lle i chwarae a gwneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau theatr a darganfod rhannau o'r celfyddydau nad ydych chi wedi'u profi o'r blaen efallai.
Ymunwch â ni am weithdai creadigol dan arweiniad ein tîm Ymgysylltu Creadigol yn y theatr. Gallwch ddisgwyl rhai gweithdai drama, dawns, celf, cerddoriaeth a theatr dechnegol.
Does dim angen unrhyw brofiad, dim ond bod yn barod i gael dipyn o hwyl!
Llun 9 Awst – Gwener 13 Awst 10am – 4pm
Cost - £120 yr wythnos. Gostyngiadau ar gael i bobl ar fudd-daliadau neu sy'n cael prydau ysgol am ddim. Anfonwch e-bost i emma.king@theatrclwyd.com am fwy o wybodaeth.