Stori Fach

See dates and times  

Straeon, crefftau a hwyl creadigol!

Ymunwch â ni am fore dydd Mawrth hudolus yn llawn straeon, crefftau a hwyl creadigol y bydd y teulu cyfan wrth eu bodd ag e! Dewch at eich gilydd am straeon hudolus sy'n cael eu hadrodd gan ein storïwyr cyfareddol ni, ac wedyn gadewch i'ch dychymyg redeg yn wyllt gyda chelf a chrefft. O straeon i gynhesu'r galon i ffyn glud gliter.

Yn para tua 90 munud, mae'r sesiwn greadigol yma wedi'i chynllunio ar gyfer plant dan 5 oed a'u teuluoedd.

Addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg!

Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gyflwyno gan Ymgysylltwyr Creadigol Theatr Clwyd


Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?

Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025
Hanner Tymor: 24 Chwefror – 1 Mawrth (Dim sesiynau)

Tymor yr Haf: Dydd Llun 28 Ebrill – Sad 5 Gorffennaf 2025
Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025


FAQ's

Goruchwyliaeth

Dylai Rhieni / Gwarcheidwaid fod gyda'u plant drwy gydol y sesiwn - mae'r sesiwn wedi'i chynllunio o amgylch rhannu llawenydd darllen gyda'n gilydd.

Cadeiriau Gwthio a Newid Babanod
  • Mae gennym ni le ar gyfer cadeiriau gwthio
  • Mae cyfleusterau newid babanod ar gael (ac maen nhw'n neis iawn!)
Bwyd a Diod

I Blant:

Mae'n iawn i chi ddod â byrbrydau a diod i'ch plentyn, ond rydyn ni'n gofyn i oedolion beidio â dod â'u bwyd a'u diod eu hunain.

I Oedolion:

Mae gennym ni fwyty / bar / caffi hyfryd lle mae coffi, brecwast, byrbrydau a chacennau blasus ar gael (fe fydd gennym ni ddigon o gaffein ar eich cyfer chi).

Bydd archebu’n agor ym mis Medi!

Cofrestrwch yma i fod y cyntaf i glywed am leoedd ar gael.