Mae’n amser am anghenfilod! Mewn labordy mewn castell yn uchel uwchben tref fechan, mae Proffesor Gwallgof yn dod â chreadigaethau angenfilaidd yn FYW (bron) ... ac wedyn yn anghofio amdanyn nhw yn sydyn iawn. Felly pwy sy'n gofalu am y castell? Pwy sy'n gofalu am yr anghenfilod? Pwy sy'n eu dysgu nhw i BEIDIO â bod yn angenfilaidd, rhag i drigolion y dref ffurfio Torf Ddig a llosgi'r castell i'r llawr? Dewch i gwrdd â Stitch Head - creadigaeth gyntaf un y proffesor.


