Grŵp Cefn Llwyfan!

Merch 24 Medi 25 - Merch 1 Gorff 26

I bawb 15 i 18 oed

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu am beth sy'n digwydd yng nghefn y llwyfan? Yn y grŵp cyflwyniadol yma, fe allwch chi gael profiad ymarferol a dysgu am y sgiliau cefn llwyfan ymarferol sy'n hanfodol i sicrhau bod sioe yn cael ei chynnal.

Fe fyddwch chi'n dysgu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys rheoli llwyfan, goleuo, sain, gwisgoedd, set a phropiau.

Fe fyddwch chi'n cael eich cyflwyno i hanfodion theatr dechnegol drwy weithgareddau ymarferol ac arddangosfeydd.

Fe fyddwch chi'n mwynhau dosbarthiadau meistr ymarferol gyda'n tîm technegol ni, yn mynychu ymarferion technegol ar gyfer ein sioeau proffesiynol ac yn gweld sut mae hud y theatr yn cael ei greu.

Addas i bawb ym Mlynyddoedd Ysgol 10, 11, 12 / ieuenctid sy’n mynd i goleg.


Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?

Mae'r grŵp hwn yn rhedeg ar y diwrnod a nodir isod.

Tymor yr Hydref: Dydd Llun 23 Medi – Sad 21 Rhagfyr 2024
Hanner Tymor: 28 Hydref – 2 Tachwedd (Dim sesiynau)

Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025
Hanner Tymor: 24 Chwefror – 1 Mawrth (Dim sesiynau)

Tymor yr Haf: Dydd Llun 28 Ebrill – Sad 5 Gorffennaf 2025
Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025



Faint mae’n gostio?




Cost Flynyddol

Debyd Uniongyrchol Misol

Debyd Uniongyrchol Misol

Cost Lawn pris safonol

£324.00

£27.00

Bwrsari

Bwrsari

Mae'n hanfodol i ni bod ein holl grwpiau ni’n hygyrch i bawb. Mae Theatr Clwyd yn cynnig amrywiaeth o fwrsarïau i gynorthwyo gyda chefnogaeth ariannol i alluogi cyfranogwyr i gael mynediad i’n gweithdai a’n gwersi cymunedol ni.

Nid yw ein bwrsarïau ni’n destun prawf modd ond maen nhw’n cael eu rhannu fesul achos. Os hoffech chi ddangos diddordeb mewn derbyn bwrsari, llenwch ein holiadur byr ni drwy Glicio Yma a byddwn yn adolygu eich cais.

Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi rhag cymryd rhan, fel mynediad neu broblemau gyda theithio, anfonwch e-bost i box.office@theatrclwyd.com ac fe wnawn ni ein gorau glas i helpu.



Debyd Uniongyrchol Misol


Monthly
Direct Debit


Bwrsari o 25%

Lle gyda chefnogaeth

£243.00

£20.25

Bwrsari o 50%
Lle gyda chefnogaeth

£162.00

£13.50

Gostyngiadau

Gostyngiadau Eraill o 25%:

  • Gostyngiad i Frodyr a Chwiorydd (plentyn cyntaf yn talu’n llawn, ail blentyn yn cael 25% i ffwrdd)
  • Ymunwch â mwy nag un grŵp
Bydd archebu’n agor ym mis Medi!

Cofrestrwch yma i fod y cyntaf i glywed am leoedd ar gael.