Camwch i fydysawd caleidosgopig llawn rhyfeddod, hiraeth a hud wrth i ni fynd i mewn i'r dref ddychmygol lle bu Shôn yn byw fel bachgen.
Wedi'i ysgrifennu gan "the great Welsh storyteller" (The Stage), Shôn Dale-Jones, mae Stories from an Invisable Town yn swynol, yn aflonyddgar ac yn llawn syrpreisys. Bydd straeon Shôn yn mynd â chi ar daith chwilfrydig gan droi popeth yn ffuglen - i fyd lle mae'r holl realiti yn diflannu… yn ddoniol ac yn feddylgar, mae'n stori wych am ollwng gafael a symud ymlaen.
Rhan theatr, rhan adrodd straeon, rhan stand-yp, mae'r sioe yn cofleidio ein bregusrwydd, yn dathlu gwahaniaeth ac yn ein helpu i ailddarganfod rhyfeddod meddwl anrhagweladwy plentyndod.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!

