Sesiwn 'Sgwennu i
oedolion
*ac yn addas i ddysgwyr lefel Canolradd
Dan ni’ n ffodus iawn i allu
croesawu Anni Llŷn i ymuno â ni yn Gwyddgig eleni.
Mae Anni yn wyneb cyfarwydd
ar y teledu fel cyflwynydd ac actores. Bu'n Fardd Plant Cymru am ddwy flynedd
ac wedi cynnal gweithdai i blant, pobl ifanc ac oedolion.
Bydd rhai yn cofio Anni Llŷn
yn cynnal Sesiwn ‘Sgwennu Santes Dwynwen i ddysgwyr ar ran y fenter nôl yn 2022
ac erbyn diwedd y sesiwn bu i bawb lwyddo i ‘sgwennu cerdd fach ramantus wrth
ddilyn ei gweithdy cam-wrth-gam, felly dewch i ymuno â ni i ddarganfod eich
talent creadigol.