Dewch i wrando a holi’r tri cherddor ac actor poblogaidd a hwyliog yma yn sgwrsio am eu gyrfa a'u profiadau yn y byd perfformio - o'r gigs, i'r dramâu....gydag ambell i gyfrinach ddireidus byd y panto!
Mae'r digwyddiad yma yn rhan o GwyddGig, ac yn addas hefyd ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

Daniel Lloyd a Mr Pinc
Cofiwch hefyd, bydd Daniel yn perfformio gyda'i fand Daniel Lloyd a Mr Pinc am 7.30yh, a phwy a ŵyr, efallai bydd Phyl a Caitlin yn aros ymlaen am y gig hefyd...
Bydd angen prynu tocyn ar wahân i weld y gig...