“Ai dyna iaith dy galon?”
Dau deulu, dwy iaith a phâr o gariadon ifanc sy’n barod i fentro popeth.
Dyma olwg newydd ar y stori garu trasig enwog, sy’n gosod ffrae ffyrnig y teuluoedd Montagiw a Capiwlet yng nghymdeithas dwyieithog Cymru – lle mae Cymraeg y Montagiws a Saesneg y Capiwlets yn gwrthdaro.
Wrth i ieithoedd wahaniaethu ac uno, mae hen gweryl gwaedlyd yn ail-danio, y cosmos yn troi, a mae dau gariad anffodus yn gwynebu eu tynged.
Dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, bydd y cynhyrchiad arloesol hwn yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, gan archwilio’r hunaniaeth Gymreig a chynnig safbwynt newydd ar ddrama anfarwol Shakespeare.
Yn seiliedig ar gyfieithiad J. T. Jones.
Cynhyrchiad Theatr Cymru mewn cydweithrediad â Shakespeare’s Globe

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!
Oriel
Cast a Chreadigol

Isabella Colby Browne
Juliet
Steffan Cennydd
Romeo
Imad Eldeen
Paris
Scott Gutteridge
Tybalt
Owain Gwynn
Mercutio
Llinor ap Gwynedd
Nurse
Sion Eifion
Benvolio
Gabin Kongolo
Prince
Michelle McTernan
Lady Capulet
Jonathan Nefydd
Lord Capulet
Eiry Thomas
Friar Lawrence















