Remarkable Rhythm

Past Production

See dates and times  

Sioe theatr ddawns rhythmig am wneud ffrindiau newydd.

Mae Rhythm yn ddigymell ac yn profi bywyd fel symudiad; a phob sain fel cerddoriaeth. Mae Glas yn caru bywyd esmwyth a sefydlog; ac mae'n well ganddo i bethau aros yr un fath.

Pan mae Rhythm a Glas yn cyfarfod ym mharc Bellevue mae ganddyn nhw bum diwrnod yr hanner tymor i weld ydi eu cyfeillgarwch yn werth ei gadw unwaith y byddant yn mynd yn ôl i'w hysgolion ar wahân.

Drwy gerddoriaeth a symudiad, ac ambell anffawd, mae'r ddau berson ifanc yma’n profi'r anhawster a'r llawenydd wrth gysylltu â rhai sy'n wahanol iddyn nhw eu hunain.

Un fainc, dau berson, a phum diwrnod.
Fyddan nhw’n dod o hyd i ffordd o greu rhywbeth nodedig; rhythm sy’n unigryw iddyn nhw a neb arall?



Oedran 7+ a’u teuluoedd.