Mae Nicola Coughlan (Bridgerton) yn ymuno ag Éanna Hardwicke (The Sixth Commandment) a Siobhán McSweeney (Derry Girls) yn nrama gyfareddol John Millington Synge am ieuenctid a hunanddarganfyddiad.
Ar ymyl y ddaear, fe allech chi fod yn unrhyw un. Mae bywyd Pegeen Flaherty yn cael ei droi wyneb i waered pan, ar ddiwrnod cwbl arferol, mae dyn ifanc yn cerdded i mewn i'w thafarn gan honni ei fod wedi lladd ei dad. Yn hytrach na phobl yn troi eu cefn arno, mae'r llofrudd Christy Mahon yn dod yn arwr lleol. Mae'n cael croeso ac yn ennill calonnau a rasys wrth iddo ddod yn rhan o fywyd y pentref. Hynny yw, nes bod ail ddyn yn cyrraedd y pentref yn annisgwyl…



