Ahoi chi! Dewch i hwylio gyda Little Bill!
Cyfle i fwynhau perfformiad adrodd straeon byw cyffrous a gweithdy rhyngweithiol!
Yn llawn môr-ladron, stormydd, trysor a digonedd o hud. Stori gynnes am ddewrder, caredigrwydd a phŵer y môr. Gallwch ddisgwyl chwerthin, morloi a llond cwch o antur - a'r cyfan yng nghalon eich llyfrgell.
Yn cael ei gyflwyno gan Gysylltiadau Creadigol Theatr Clwyd, Emyr John, Angharad Jones a Sam Copp.
(Mae croeso i deuluoedd ymuno yn y gweithgareddau crefft 30 munud cyn neu ar ôl y sioe. Bydd y rhain yn cael eu darparu gan Homestart Sir y Fflint.)
Dewch o hyd i'ch llyfrgell agosaf:
Llyfrgell Treffynnon
Dydd Mawth 7 Ebrill
1pm, 3pm
Holywell Leisure Centre, North Road, Holywell, Flintshire, CH8 7UZ
Llyfrgell yr Wyddgrug
Llyfrgell y Fflint
Llyfrgell Brychdyn
Dydd Iau 9 Ebrill
3pm
Broughton Library, 119 Broughton Hall Rd, Broughton, Chester CH4 0QQ
Llyfrgell Bwcle
Dydd Gwener 10 Ebrill
10am | 11:30am
Buckley Library, The Precinct, Brunswick Road, Buckley, Flintshire, CH7 2EF

