Drama newydd gan Suzie Miller
Rosamund Pike (Gone Girl, Saltburn), sydd wedi’i henwebu am Oscar, yw Jessica yn y ddrama nesaf y mae disgwyl mawr amdani gan y tîm y tu ôl i Prima Facie.
Mae Jessica Parks yn Farnwr Llys y Goron clyfar ar frig ei gyrfa. Y tu ôl i'r wisg, mae hi'n feistr ar garioci, yn wraig gariadus ac yn rhiant cefnogol. Pan fydd digwyddiad yn bygwth troi ei bywyd wyneb i waered, a fydd hi’n llwyddo i gynnal undod ei theulu?
Mae'r awdur Suzie Miller a'r cyfarwyddwr Justin Martin wedi dod at ei gilydd unwaith eto yn dilyn eu ffenomen fyd-eang, Prima Facie, gyda'r archwiliad deifiol yma o fod yn fam yn y byd modern a gwrywdod.