Mae enillydd Gwobr Olivier bum gwaith, Imelda Staunton (The Crown), yn ymuno â'i merch go iawn, Bessie Carter (Bridgerton), am y tro cyntaf erioed, gan chwarae mam a merch yng nghlasur moesol tanbaid Bernard Shaw.
Mae Vivie Warren yn fenyw o flaen ei hamser. Mae ei mam, fodd bynnag, yn gynnyrch yr hen drefn batriarchaidd. Mae manteisio arni wedi ennill ffortiwn i Mrs. Warren – ond am ba gost?
Wedi'i ffilmio'n fyw o'r West End, mae'r cynhyrchiad newydd yma’n dod â Staunton yn ôl at y cyfarwyddwr Dominic Cooke (Follies, Good), gan archwilio'r gwrthdaro rhwng moesoldeb ac annibyniaeth, traddodiadau a chynnydd.
gan Bernard Shaw
cyfarwyddwyd gan Dominic Cooke
gan Sonia Friedman Productions