Thema ein gŵyl ar gyfer 2025 yw ‘Canfyddiadau’ – y cysylltiad cryf rhwng cerddoriaeth a’r meddwl dynol.
Ein nod yw archwilio pwysigrwydd cerddoriaeth a’r celfyddydau wrth gefnogi a hyrwyddo iechyd meddwl da, a thrwy gyfres o gyngherddau, gweithdai, dosbarthiadau meistr a thrafodaethau, ‘rydym yn archwilio agweddau cadarnhaol cerddoriaeth ar gyfer ein lles meddyliol.