Theatr Natur

Mehefin - Rhagfyr 2025

Detholiad o ffotograffau gan Diane Brière de l’Isle

All images are for sale with all profits being donated to Theatr Clwyd.

Postcards of the below images will also be available for purhase from our shop.

For more information on purchasing, please visit us at the welcome desk at Theatr Clwyd or contact us at boxoffice@theatrclwyd.com or on 01352 344101.

Our phone lines are open from 10am- 6pm Monday to Saturday

Detholiad o ffotograffau gan Diane Brière de l’Isle

All images are for sale with all profits being donated to Theatr Clwyd.

Postcards of the below images will also be available for purhase from our shop.

For more information on purchasing, please visit us at the welcome desk at Theatr Clwyd or contact us at boxoffice@theatrclwyd.com or on 01352 344101.

Our phone lines are open from 10am- 6pm Monday to Saturday


Am Diane Brière de l’Isle & Nature's Theatre

Fe ddechreuodd fy angerdd i dros ffotograffiaeth pan oeddwn i’n 10 oed. Fe roddodd fy nhad ei gamera i mi a dysgu am y triongl amlygiad i mi, y ffordd hen ffasiwn, gyda mesurydd golau ar wahân. O hynny ymlaen, doedd y camera byth ymhell iawn o fy nghyrraedd i, ac roeddwn i’n dal eiliadau arbennig pryd bynnag y gallwn i.

Mae bywyd yn brysur ac fe roddodd y pandemig gyfle i mi oedi. Roeddwn i’n cerdded bob dydd gyda fy nghi, Franklin, yn ein cymdogaeth hardd ni, gan dynnu lluniau o’r arddangosfeydd blodau anhygoel a’r adar ym Mharc Cefn On. Gan fod hyn wedi fy atgoffa i o’r llawenydd mae ffotograffiaeth yn gallu ei sicrhau, fe wnes i brynu camera Canon di-ddrych a dechrau addysgu fy hun, gan gellwair ’mod i’n fyfyriwr ym “mhrifysgol YouTube”.

Wrth edrych i lygaid Franklin, a Looney, cwningen fechan ein merch ni, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy nenu i mewn i’w heneidiau nhw, ac fe wnaethon nhw fy nysgu i sut i edrych i lygaid pob anifail. Mae’r bywyd gwyllt rydw i wedi dod ar ei draws ar fy nheithiau wedi fy nghyffwrdd i i fy nghraidd. Rydw i'n teimlo empathi aruthrol tuag at yr anifeiliaid yma a diddordeb mawr yn eu ffordd o fyw a'u harferion yn ogystal â thristwch am y ffordd rydyn ni, fel bodau dynol, yn herio eu cynefin. Rydw i'n ddiolchgar iawn fy mod i’n gallu rhannu hyn gyda chi yn yr adeilad a'r gofod anhygoel yma.

Mae'r arddangosfa yma’n cofnodi amrywiaeth o brofiadau yn Ffrainc, Botswana, yr Unol Daleithiau ac Antarctica. Maen nhw i gyd wedi cael eu tynnu gyda fy nghamera Canon R5 i rhwng 2022 a 2024. Y lens rydw i'n ei defnyddio fwyaf ydi Canon 100-500mm. Mae'r chwyddo pwerus yma’n caniatáu i mi "fynd” yn agos iawn at fy ngwrthrychau.


Nature's Photography

Ceffylau Camargue

Ceffylau Camargue

Mae’r ceffyl Camargue yn frîd hynafol sy’n frodorol i ranbarth Camargue ac mae’n un o'r bridiau ceffylau hynaf yn y byd. Maen nhw’n byw mewn greoedd bach, yn cael eu rheoli gan gardians, sy'n goruchwylio eu ffordd led-wyllt o fyw.

Mae’r gardians, sef y cowbois lleol, yn byw mewn diwylliant tebyg i gowbois y 19eg ganrif, ac maen nhw’n cael eu hadnabod am eu gwisg draddodiadol a'u sgiliau mewn bugeilio a marchogaeth. Maen nhw’n defnyddio ceffylau Camargue i gasglu da byw, gan gynnwys teirw du enwog y rhanbarth, ac ar gyfer amrywiol dasgau yn y gwlybdiroedd.

Roeddwn i wedi bod eisiau gweld ceffylau Camargue ers clywed amdanyn nhw am y tro cyntaf yn fy nosbarth daearyddiaeth i yn yr ysgol. Ddegawdau lawer yn ddiweddarach, fe wnes i benderfynu troi’r dymuniad hwnnw yn realiti ac, ym mis Mehefin 2022, fe es i a fy mag camera llawn i Dde Ffrainc.

Fel rhan o grŵp wedi’i drefnu, fe fyddem yn deffro gyda'r wawr, yn cwrdd â’r gardians mewn gwahanol leoliadau, yn dychwelyd yn llawer hwyrach am frecwast hwyr, lawrlwytho ffotograffau a chysgu. Fe fyddem yn mynd allan eto am sesiwn wrth i’r haul fachlud, gan ddychwelyd ymhell ar ôl i’r bwytai lleol roi'r gorau i weini – roeddwn i’n mynd i'r gwely'n llwglyd!

Roedd treulio sawl gwawr gyda'r creaduriaid hardd yma’n fythgofiadwy. Cyfeirir atyn nhw yn aml fel "Ceffylau'r Môr" oherwydd eu cysylltiad â thraethau a dyfroedd y corsydd. Roedd eu llonyddwch nhw wrth i'r haul godi’n hudolus bron. Roeddwn i eisiau cerdded ar flaenau fy nhraed o'u cwmpas nhw wrth i mi dynnu lluniau. Roedd y golau'n brydferth ac yn wahanol bob dydd. Mae rhywbeth trydanol am sefyll ar lwybr gre o geffylau’n carlamu ar draeth hardd. Eu mwng gwyn llachar yn hedfan yn y gwynt, eu carnau’n saethu dafnau o ddŵr yn uchel i’r awyr wrth iddyn nhw anelu’n syth amdanoch chi!! Ond rydych chi'n aros yn llonydd iawn, dydych chi ddim yn symud o gwbl heblaw am y bys ar fotwm eich caead chi, ac unwaith maen nhw bron â chyrraedd atoch chi, maen nhw'n gwahanu'n osgeiddig ac yn tasgu eu ffordd heibio i chi… ffiw!!! Am brofiad anhygoel.

Mamau a Babanod

Mamau a Babanod - Cyflwyniad

Gwylio a chofnodi’r rhyngweithio rhwng mamau (ac weithiau tadau fel yn achos pengwiniaid) a'u babanod yn y gwyllt ydi fy hoff fath i o ffotograffiaeth.

Cariad Baban Pengwin a Choflaid Pengwin

Fe wnes i syrthio mewn cariad gyda phengwiniaid yn ystod fy ychydig ddyddiau yn Antarctica, ym mis Ionawr 2024. Does gan yr adar yma ddim llawer o warchodaeth ar gyfer yr amodau mae'n rhaid iddyn nhw fyw ynddyn nhw ac eto maen nhw’n llwyddo, maen nhw’n goroesi ac yn ffynnu er mai eu bygythiad mwyaf nhw ydi dynolryw. Mae cynhesu byd-eang yn bygwth eu bodolaeth ansicr nhw oherwydd ei fod yn effeithio ar yr iâ yn y môr sy'n hanfodol i lawer o rywogaethau. Mae'n newid amodau'r cefnfor sy'n effeithio ar eu ffynonellau bwyd. Mae'r iâ cynyddol sy’n toddi yn Antarctica yn effeithio ar eu goroesiad nhw hefyd oherwydd nad ydi blew meddal, fflyfflyd y rhai bach ar gyfer cynhesrwydd yn dal dŵr. Wrth i'r iâ doddi, mae'n gynyddol anodd iddyn nhw ddod o hyd i iâ sych. Os ydyn nhw’n gwlychu cyn bwrw eu blew a phlu go iawn yn cymryd ei le, maen nhw’n marw o oerfel.

Fe wnes i fwynhau treulio ychydig oriau yn gwylio teuluoedd pengwin hapus

(mae'r ddau riant yn gofalu am eu cywion yn gyfartal) yn cofleidio, yn bwydo ac yn cysgu yn erbyn ei gilydd. Gobeithio y byddan nhw’n cyffwrdd â'ch calonnau chi fel y gwnaethon nhw i mi.

Denu sylw Mam, Cusanu Mam a Fy mam a fi

Fe wnaethon ni dreulio mwy na 2 awr yn eistedd mewn Land Rover, ychydig fetrau odd wrth lewes a'i 3 o genawon. Gwylio eu hanturiaethau nhw, eu rhyngweithio, y ffordd roedden nhw’n dringo dros ei gilydd ac yn neidio ar eu mam, crwydro i ffwrdd i archwilio, ceisio chwarae gyda'u tad blin oedd eisiau llonydd a dim arall, nes iddi hi, yn ddoeth iawn, eu cludo nhw i ffwrdd (cyn iddo golli ei dymer a chwipio mewn dicter). Roedd yn hyfryd.

Pi-po Llewpard

Mae'r cenau llewpard sy’n cuddio tu ôl i'w boncyff, yn ein gwylio ni'n ofalus, yn aros i'w mam ddod yn ôl. Mae mamau llewpard yn gadael eu cenawon ar eu pen eu hunain am gyfnodau byr, ychydig oriau ond dyddiau weithiau, tra maen nhw’n mynd i hela neu'n goruchwylio eu tiriogaeth. Gadawyd dau genau gan eu mam yn y llecyn diogel yma, ger pwll bach ac ychydig o goed, yn y gobaith y byddan nhw’n ddiogel. Tra mae eu mam allan, mae’r cenawon yn dysgu bod yn annibynnol a datblygu eu sgiliau hela eu hunain, sy'n hanfodol ar gyfer eu goroesiad. Fe welson ni hyn pan ddaeth cwdw i'r twll dŵr bach ac fe aeth y cenau gwrywaidd yn fygythiol iawn, gan ostwng ei gorff a dechrau cropian tuag at yr ysglyfaeth posibl. Roedd yn ciwt iawn oherwydd bod y cwdw yn enfawr a dim ond cath fechan oedd y cenau llewpard. Ond fe allech chi weld y byddai’n tyfu i fod yn ysglyfaethwr ffyrnig.

Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, fe welson ni’r cenawon yn cyfarfod eu mam unwaith eto. Roedd hi wedi lladd impala a chuddio'r carcas. Roedd hi wedi dod i nôl ei chenawon a’u harwain yn ddiogel i fwydo.

Amser Addysgu

Roedd hon yn foment hyfryd rhwng y fam arth a'i 2 genau, ym Mharc Cenedlaethol Yellowstone. Roedd rhaid i mi ddod o hyd i deitl byr ac fe wnes i benderfynu ar "Amser addysgu" ond yr hyn rydw i'n credu mae’r llun yma’n ei ddweud mewn gwirionedd ydi "Fe wnes i ddweud wrthyt ti y bydden ni’n mynd i drafferth!". Rydw i’n gallu dychmygu hynny’n mynd drwy feddwl y cenau bach ar y dde tra mae ei frawd yn cael cerydd yn ôl pob tebyg gan ei fam. Mae'r mynegiant ar wyneb y cenau ar y chwith yn amhrisiadwy!

Eliffantod yn Erlid

Weithiau mae eliffantod yn taro i mewn i'w gilydd yn chwareus, yn rhedeg ar ôl ei gilydd ac yn tynnu cynffonnau ei gilydd. Mae'r rhyngweithio chwareus yma’n ffordd iddyn nhw fondio a chryfhau eu perthnasoedd cymdeithasol. Mae'n eithaf difyr gweld y cewri yma’n chwarae fel hyn, yn enwedig oherwydd eu bod nhw’n edrych mor nerthol ac ymwthiol fel arfer. Fe wnes i fwynhau’r olwg debyg i "wên" ar yr eliffant llai.

Coflaid eliffant

Wrth yrru rownd y llwyn ym Motswana, fe ddaethon ni ar draws gyr mawr iawn o eliffantod. Fe stopiodd ein gyrrwr ni ein cerbyd ni gryn dipyn o'u blaen. Fe ddaliodd yr eliffantod i ddod tuag atom ni, gan bwyntio eu trwnc bob un a'i ddal yn syth iawn: roedden nhw’n ein harogli ni, yn dadansoddi ac yn asesu ein harogleuon. Roedd yr un bach yn fy llun i’n trotian ymlaen, heb sylwi ar y perygl posibl. Fe estynnodd ei chwaer allan ato fo’n dyner a lapio ei thrwnc o'i gwmpas, gan ei arafu. Fel hyn mae eliffantod yn gofalu am ei gilydd, gyda phob aelod benywaidd o'r gyr yn chwarae eu rhan wrth fagu a gwarchod y lloi. Yr enw ar hyn yw "mamaeth arall".

Allwch chi ddim fy ngweld i

Fe gyrhaeddodd gyr mawr y twll dŵr. Gyda llawenydd mawr, fe wnes i ddarganfod llo bach iawn, yn swatio’n ddiogel ymhlith coesau'r eliffantod mawr. Wrth iddyn nhw ymolchi, yfed a thaflu dŵr a mwd arnyn nhw eu hunain, roedd y babi’n cael ei amgylchynu bob amser, a'i amddiffyn yn dda gan nifer o'r benywod. Roedd yn anhygoel nad oedd yn cael ei wasgu o gwbl yng nghanol anhrefn ymddangosiadol y llu o goesau enfawr ond roedd yn amlwg eu bod yn gwybod yn union ble roedd o bob amser. Un o fy hoff ffotograffau i oherwydd am eiliad, fe wnaethon ni wneud cyswllt, cyn iddo fo ddiflannu eto. Pan welwch chi'r ffotograff am y tro cyntaf, rydych chi'n gwybod eich bod chi'n edrych ar eliffantod, trwch a gwead garw eu coesau nhw, ac wedyn mae eich llygaid chi’n cael eu denu i'r canol ac rydych chi'n gweld gwir wrthrych y llun, y babi yn cuddio, ei lygad effro’n syllu'n syth arnoch chi. Bythgofiadwy.

Cathod Affricanaidd

Cathod Affricanaidd - Cyflwyniad

Rydw i wrth fy modd gyda'r cathod yma! Maen nhw mor llyfn, mor bwerus, mor hardd, mor ddifater, mor ddwys, mor beryglus. Mae eistedd mewn Land Rover top agored heb ddrysau, droedfeddi yn unig weithiau oddi wrth yr ysglyfaethwyr anhygoel yma, yn gwneud i'r adrenalin bwmpio!

Chwiorydd wrth y Twll Dŵr

Fe ddaeth y llewesau at y twll dŵr yn ofalus iawn, gan gymryd eu hamser, craffu ar yr ardal, pob synnwyr yn effro. Roedd yr un ar y chwith yn feichiog iawn ac roedd ei chwaer yn gofalu amdani, y cwlwm cryf iawn rhyngddyn nhw’n amlwg.

Dawns Baru

Roedd y ddawns baru’n gyfareddol i'w gwylio. Mae defod paru llewod yn gallu para am ddyddiau. Y fenyw sy’n cychwyn y paru, gan adael i'r gwryw wybod ei bod hi'n barod i baru drwy ryddhau arogl penodol a gorymdeithio'n awgrymog o'i flaen. Eiliadau yn unig yw hyd y paru ac yn aml mae’n gorffen gyda rhuo nerthol ond bydd yn cael ei ailadrodd bob 20 i 30 munud, rownd y cloc, am sawl diwrnod pan nad yw'r pâr yn bwyta fel rheol. Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi llwyddo i ddal agosatrwydd yr eiliad yma

Siesta Gwyliadwrus

Mae'r llewpard sy'n gorwedd mewn ffordd ddiog mor nodweddiadol o gath yn edrych mor hamddenol ... ac eto, mae'r edrychiad yn ei llygaid hi mor uniongyrchol ... mae hi'n syllu'n syth arnaf i, does dim bygythiad o gwbl ond mae hi’n wyliadwrus iawn. Mae hi'n eistedd ar gangen coeden, yn barod i neidio os bydd cyfle i lamu ar ysglyfaeth. Mae hi'n llwglyd. Fel ei mam a gweddill ei theulu, dydi hi ddim wedi bwyta ers diwrnod neu ddau. Mae'n boeth ac yn sych allan yna ac mae dwyster penodol yn ei llygaid hi.

Am Dro yn y Bore

Wrth i’r wawr dorri am y tro cyntaf tra oeddwn i yn Delta Okavango, roeddwn i'n ddigon ffodus i weld y pâr yma o lewod, dau frawd, allan am dro foreol. Roedden nhw'n dilyn y trac, yn dod yn syth atom ni. Ond dydi ein cerbyd saffari ni ddim yn edrych fel ysglyfaeth ac, o ganlyniad, fe wnaethon nhw gerdded heibio i ni. Fe allwn i fod wedi estyn allan a mwytho eu mwng nhw ... ond doeddwn i ddim wedi colli fy meddwl, dim ond fy anadl. Am gyfarfyddiad gwefreiddiol. Fe wnaethon nhw stopio ychydig ymhellach i lawr y llwybr a setlo yno i wylio'r haul yn codi.

Rydw i'n dy weld di...

Rydw i wrth fy modd gyda gosgeiddrwydd y llewpard hela y tu ôl i'w choeden, yn gwylio'r afrewig unig yn y pellter, yn meddwl tybed a fydd yn dod yn ddigon agos iddi geisio'i dal. Fe wnaeth hynny ac fe ymunodd y teulu yn yr helfa hefyd. Fe ruthrodd ein warden ni drwy'r safana i'w dilyn nhw - tasg heriol gan mai’r llewpard hela ydi’r anifail cyflymaf yn y byd, gan gyrraedd cyflymder o hyd at 120kph (75mya). Mae’n gyflym ac mae’n gallu ennill cyflymder yn anhygoel. Er gwaethaf hyn, methu dal eu hysglyfaeth oedd eu hanes nhw ac wedyn dychwelyd, braidd yn benisel, i gysgod amddiffynnol eu coeden.

Llew balch

Does dim angen unrhyw sylw am y llew ar y gorwel. Fe ddaethon ni ar ei draws o wrth iddo gerdded ar grib. Roeddwn i'n mwynhau ei wylio "yn agos" drwy fy lens hir pan stopiodd yn eithaf sydyn a throi rownd. Mae’n rhaid ei fod wedi clywed neu synhwyro rhywbeth, ac roeddwn i mor hapus o ddal y foment honno a dwyster ei syllu.