Surge | Gwefr
Cyfle i archwilio bydoedd newydd drwy ddawns.
Darganfyddwch dri byd newydd sy'n ymestyn o fytholeg hynafol hyd at ffuglen wyddonol y dyfodol. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eich cludo chi drwy stori, amser a gofod gyda'r triawd yma o ddawnsio cyfareddol a dylunio godidog.
Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan 'Infinity Duet', cydweithrediad unigryw rhwng y coreograffydd Faye Tan a'r artist Cecile Johnson Soliz y mae ei gwisgoedd sydd wedi'u gorchuddio gan frasluniau a'i cherfluniau sigloโn hawlioโr llwyfan ochr yn ochr รข symudiad cynnes, llawn enaid sy'n archwilio pwysau ac amser.
Cyfle i gael eich swyno gan 'Waltz' Marcos Morau, sydd wedi syfrdanu cynulleidfaoedd ledled Ewrop. Mae bodau disglair, arallfydol yn symud ar draws tirwedd wen lom gyda manwl gywirdeb eithriadol. Antur ffuglen wyddonol ddystopaidd i anhrefn, trefn a rheolaeth, sydd wedi cael ei chanmol fel โutterly compellingโ gan y Times.
Yn olaf, byddwch yn cael eich cludo ar daith i ddarganfod 'Mabon' gan Osian Meilir. Cyfle i brofiโr Mabinogion mewn goleuni newydd wrth i chi deithio drwy Gymru hynafol i gwrdd ag anifeiliaid hynaf y byd.
Mae traddodiad yn cyfuno รข dychymyg gwyllt yn y chwedl fodern yma. Mae gwisgoedd ffantasรฏol a choreograffi gwrthryfelgar yn plethu รข threftadaeth, llรชn gwerin a dirgelwch. Wedi'i ysbrydoli gan fyd hudolus mytholeg Cymru ac wedi'i osod i gerddoriaeth newydd gan y delynores o Gymru, Cerys Hafana.
utterly compellingThe Times
Fascinating, intense and compellingThe Observer
Stunning fluiditySeeing Dance
Agor oriel o luniau



Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!