NDCW: Watch Dance Class

See dates and times  

Dewch i gael cipolwg unigryw o du ôl i’r llen i weld sut mae dawnswyr CDCCymru yn paratoi ychydig oriau cyn sioe.

Gallwch arsylwi, braslunio, recordio a thynnu lluniau o ddosbarth dawns gyfoes neu fale, gan roi blas ar fywyd CDCCymru i chi.

Perffaith ar gyfer myfyrwyr dawns, artistiaid, ffotograffwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweld beth sy'n digwydd y tu ôl y llen. Gallwch ehangu eich portffolio, ymarfer darlunio symudiad, neu wylio â diddordeb.


Q&A

A fyddwch chi’n gadael y theatr weithiau’n llawn cwestiynau neu syniadau am yr hyn rydych newydd ei weld? Neu eisiau gwybod rhagor am sut mae’r ddawns wedi’i chreu?

Rhannwch eich meddyliau ar ôl y sioe mewn sesiwn Holi ac Ateb anffurfiol gyda’r dawnswyr a’r tîm artistig.

Mae’r sgyrsiau hyn am ddim i’w mynychu ac fe’u cynhelir yn syth ar ôl y sioe.


Mae dawns yn un o bum disgyblaeth y Maes Celfyddydau Mynegiannol o Ddysgu a Phrofiad os ydych yn athro sydd â diddordeb yn y gweithdai ar gyfer eich ysgol: cysylltwch ag info@ndcwales.co.uk

Mae disgrifiad clywedol byw/wedi’i recordio ymlaen llaw ar gael ar gyfer y perfformiad hwn o CURIAD.

Am ddim ond rhaid archebu tocyn.