Ysgol Haf Sioe Gerdd 2026

See dates and times  

Camwch i ganol llwyfan yr haf hwn yn Ysgol Haf Sioe Gerdd Theatr Clwyd!

Os ydych chi'n berfformiwr profiadol neu'n gwbl newydd i sioe gerdd, mae ein hysgol haf ni yn cynnig profiad hwyliog, creadigol a grymusol mewn amgylchedd theatr proffesiynol. Bydd cyfranogwyr yn archwilio caneuon a golygfeydd o rai o'r sioeau cerdd modern mwyaf cyffrous, gan gynnwys Hamilton, Wicked, a Six the Musical!

Drwy gydol yr wythnos, byddwch yn gweithio'n agos gyda Chynorthwyydd Creadigol Theatr Clwyd i ddatblygu sgiliau mewn canu, actio, symud a pherfformio ensemble. Gan ddefnyddio deunydd o sioeau cerdd poblogaidd, byddant yn meithrin hyder, creadigrwydd a chrefft llwyfan mewn lleoliad cefnogol. Fel rhan o'r profiad, bydd pob cyfranogwr yn mwynhau taith gefn llwyfan unigryw, gan gynnig cipolwg y tu ôl i'r llenni ar sut mae cynyrchiadau Theatr Clwyd yn cael eu creu. Daw'r wythnos i ben gyda pherfformiad rhannu anffurfiol i deulu a ffrindiau.

I oedrannau 11-17

FAQs

Beth ddylai fy mhlentyn ei wisgo?

Gwnewch yn siŵr bod eich person ifanc yn gwisgo dillad cyfforddus y gall symud ynddynt, fel legins neu drowsus loncian, ynghyd ag esgidiau addas fel trainers.

Beth am ginio?

Dylai cyfranogwyr ddod â phecyn cinio. Mae egwyl ginio 30 munud wedi'i threfnu bob dydd.

Pryd mae'r rhannu?

Bydd y rhannu anffurfiol yn digwydd am 2:30pm brynhawn Gwener.

Pwy fydd yn arwain y sesiynau?

Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan Gynorthwy-wyr Creadigol profiadol Theatr Clwyd.