Mother Goose - The Rock 'n' Roll Panto

Christian Patterson

See dates and times  

Mae ein Pantomeim Roc a Rôl chwedlonol ni’n dychwelyd i’n prif theatr ar ei newydd wedd yn llawn o’r caneuon roc, pop a soul mwyaf, gwisgoedd gwych, ffrogiau ffrils, jôcs un-lein hynod ddoniol, digonedd o ynnau dŵr ac, wrth gwrs, eich hoff bypedau panto!

Wedi’i ysgrifennu gan yr awdur pantomeim arobryn, Christian Patterson (Sleeping Beauty, Robin Hood, Beauty & The Beast) – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n bachu’ch tocynnau ar gyfer digwyddiad Nadoligaidd y tymor!




Cyfnod Gwerthu Tocynnau:

Gallwch archebu tocynnau ar gyfer ein pantomeim ni yn 2024/25 o’r dyddiadau canlynol:

Archebu Blaenoriaeth i Aelodau – o Llun 4 Maw @ 10am
Archebu i Ysgolion – o Llun 11 Maw @ 10am
Archebu i’r Cyhoedd – o Llun 18 Maw @ 10am


Cwestiynau Cyffredin

Ble bydd y sioe yn cael ei pherfformio? Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn ein hawditoriwm prif dŷ newydd sbon, wedi'i adnewyddu a'i ailddatblygu - gyda seddi newydd sbon, carpedi newydd a chynllun wedi'i addasu ychydig (i'w wneud yn well nag o'r blaen!).

A yw hynny'n golygu y bydd adeilad llawn y theatr ar agor ar gyfer y Nadolig? Na. Rydym bob amser wedi cynllunio i ailagor yr adeilad llawn yn raddol yn 2025 . Byddwn yn rhannu panto yn y prif dŷ y Nadolig hwn ac yna bydd yr adeilad yn cael ei ailagor yn llawn erbyn canol 2025. Mae hynny’n golygu (yn debyg i Robin Hood), y byddwch chi’n gwylio’r sioe yn ein prif dŷ ond bydd y cyntedd, y bar a’r toiledau (am y tro olaf) yn ein cyfleusterau dros dro wrth ymyl y theatr.

Oes raid i ysgolion dalu'r swm llawn ymlaen llaw?
Nac oes. Byddwn yn cymryd blaendal ar gyfer eich archeb gyda'r gweddill yn ddyledus yn yr hydref. Cofiwch bod y sioeau i ysgolion yn gwerthu allan yn gyflym.

Oes gostyngiadau i grwpiau?
Oes. Rydym yn cynnig gostyngiad bychan i grwpiau o 20+ ar gyfer y sioe yma.

Ar gyfer pwy mae'r sioe yn addas?
Yn gyffredinol byddem yn dweud 5+ oed.

Ydi'r sioe yn cynnwys effeithiau strôb?
Bydd y sioe yn cynnwys effeithiau strôb a goleuadau’n fflachio.

A fydd perfformiadau o'r sioe gydag iaith arwyddion, sain ddisgrifiad, capsiynau a pherfformiadau hamddenol?
Bydd, bydd y dyddiadau ar gyfer y rhain yn cael eu cyhoeddi pan fydd y sioe ar werth.