Byw gyda cholli’r cof?
Ymunwch â ni ar brynhawniau Mercher ar Zoom am 1:45yp am baned a sgwrs anffurfiol, ac yna am awr o hwyl yn llawn cerddoriaeth, canu, barddoniaeth, crefft, a phopeth sy'n gysylltiedig â theatr!
Croeso i gartrefi gofal, ynghyd â theulu a ffrindiau.
Mae'r sesiynau hyn AM DDIM.
Llenwch y ffurflen isod i gadw'ch lle ac i dderbyn manylion y gwahoddiad Zoom, os gwelwch yn dda.
3, 10, 17, 24 Chwe
3, 10, 17, 24 Maw