Pan mae Henry Paget liwgar yn cyrraedd Gogledd Cymru yn y 1890au i hawlio ei etifeddiaeth aristocrataidd, mae ei ddawn theatrig a'i bersonoliaeth egsentrig herfeiddiol yn creu cryn dipyn o sioc yn y dosbarth elitaidd uwch, er mawr ddifyrrwch i bobl leol y dref. Ochr yn ochr รข'i gyfnither fywiog, Lily, a'i fwtler ffyddlon, Gelert, mae Henry yn ceisio creu hunaniaeth iddoโi hun fel y Pumed Ardalydd, gan herio traddodiadau syโn ei fygu, perthnasau cynllwyngar, a'r cysgod mawr sydd wediโi fwrw gan ei dad sydd wedi ymddieithrio. Yn ffilm sydd wediโi hysbrydoli gan stori wir, mae'r dathliad gwyllt a digyfaddawd yma o arwahanrwydd yn cael ei arwain yn ddi-ofn gan seren newydd ac enwebai am BAFTA, Callum Scott Howells (Itโs a Sin, The Beautiful Game), ac yn ymuno ag o mae cast ategol rhagorol syโn cynnwys enwebai am BAFTA dair gwaith, Rupert Everett (The Happy Prince, An Ideal Husband), Ruby Stokes (Jay Kelly, Bridgerton), enillydd BAFTA Siobhรกn McSweeney (Derry Girls, Alice Through the Looking Glass), Louis Hynes (A Series of Unfortunate Events, The Great), Louise Brealey (Sherlock, Brian and Charles), Tom Rhys Harries (White Lines, The Gentlemen) a Paul Rhys (Wuthering Heights, Saltburn). |
Holi ac Ateb gan Celyn Jones (Cyfarwyddwr)
2pm 6
