
Cyfres Biano 2026 Tanysgrifiad
Dim ond £12 y cyngerdd
Arbedwch hyd at £52
Eich Tymor Newydd.
Rydyn ni wrth ein bodd yn dychwelyd yn 2026 gyda phedwar pianydd nodedig sy'n gwbl flaenllaw yn eu cenhedlaeth.
Enwyd y pianydd o Lithwania, Kasparas Mikužis, yn un o Rising Stars 2025 Classic FM. Yn enillydd Clyweliadau Rhyngwladol YCAT, mae'n ennill clod a bri rhyngwladol yn gyflym iawn.
Mae wedi perfformio yn y Concertgebouw yn Amsterdam, Neuadd Wigmore, a Phencadlys y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa, ac mae cyngherddau gyda Cherddorfa Symffoni Genedlaethol Lithwania ymhlith ei uchafbwyntiau diweddar.
Mae'r rhaglen yn cynnwys:
Mozart(Sonata K330) | Ravel('Miroirs') | Beethoven(Op. 101) | Godowsky(Java Suite Part 1)
*gall rhaglenni fod yn destun newid




