
His Dark Materials
Gorffennaf - Rhagfyr
Camwch i fyd His Dark Materials mewn arddangosfa syfrdanol o'r ddrama deledu arobryn gan y BBC a HBO, sy’n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â noddwr corfforaethol Theatr Clwyd, a'r Cwmni Cynhyrchu o Gymru, Bad Wolf.
Profwch yr hud wrth i wisgoedd, props allweddol, delweddaeth, cynlluniau a gweithiau celf eich tywys chi y tu ôl i lenni'r saga epig yma. Bydd pob cornel o'r Oriel yn datgelu'r crefftwaith a'r dychymyg sydd wedi pweru’r gyfres.
Ymunwch â ni i ddathlu celfyddyd, straeon a rhyfeddod His Dark Materials – hanfodol i ddilynwyr a meddyliau chwilfrydig fel ei gilydd.
