Exhibition On Screen: Turner & Constable Gradd 12A.

See dates and times  

Seventh Art Productions - Enillwyr Gwobr Bafta

Gan ddathlu 250 mlynedd ers eu geni, mae'r rhaglen ddogfen newydd yma, na ddylech ei cholli, yn edrych ar fywydau a gwaddol Turner a Constable ochr yn ochr รข'r arddangosfa arloesol yn y Tate.

Roedd dau o baentwyr mwyaf Prydain, J.M.W. Turner a John Constable, yn elynion mawr hefyd. Wedi'u geni o fewn blwyddyn i'w gilydd, defnyddiodd y ddau baentio tirwedd i adlewyrchu'r byd oedd yn newid o'u cwmpas. Mae Tate Britain yn dod รข'r ddau gawr yma at ei gilydd ar gyfer arddangosfa arloesol yn Llundain rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Ebrill 2026, ac mae gan Exhibition on Screen fynediad unigryw a breintiedig unwaith eto i ddod รข'u celfyddyd eithriadol a'u straeon nodedig i'r sgrin fawr ym mis Chwefror fel eich bod chiโ€™n gallu mwynhau'r ffilm a'r arddangosfa gyda'i gilydd. Cyfle i ddarganfod ochrau annisgwyl i'r ddau artist gan edrych yn fanwl ar lyfrau braslunio ac eitemau personol a gwybodaeth gan arbenigwyr blaenllaw.

Fe wnaeth machlud haul godidog Turner a golygfeydd gogoneddus o'i deithiau, a darluniau delfrydol Constable o lefydd annwyl gartref, greu cynnwrf mawr yn llawn brwdfrydedd ymhlith cyhoedd y cyfnod. Mae Constable yn cynrychioli'r gorau o'r hen ysgol o realaeth a hiraeth gwledig; a Turner, ffordd newydd gyffrous o bortreadu emosiwn ac argraffiadau breuddwydiol. Maeโ€™r beirniaid wedi cymharu eu harddulliau gwahanol iawn gyda gwrthdaro rhwng 'tรขn a dลตr'. Peidiwch รข cholli'r cyfle yma i weld y mawrion ochr yn ochr, fel roedden nhw mor aml mewn bywyd, ar y sgrin fawr am y tro cyntaf.