Ysgol Haf Drama, 8 i 10 Oed
27 - 31 Gorff
Hawliwch y llwyfan yr haf yma yn Ysgol Haf Drama Theatr Clwyd! (8 i 10 Oed)
Ymunwch â ni am brofiad hwyliog, creadigol a grymusol mewn amgylchedd theatr proffesiynol. Drwy gydol yr wythnos, fe fyddwch chi'n gweithio'n agos gyda Chyswllt Theatr Clwyd i ddatblygu stori unigryw! Bydd y cyfranogwyr yn datblygu sgiliau drama, gan ganolbwyntio ar actio, symudiad, a pherfformiad ensemble. Bydd pob diwrnod yn wahanol, a phob dydd bydd y cyfranogwyr yn archwilio sgil wahanol - byddwn yn cyrraedd ein huchafbwynt drwy ddod â'r sgiliau yma at ei gilydd ar gyfer rhannu anffurfiol. Fel rhan o'r profiad yma, bydd pob cyfranogwr yn mwynhau taith gefn llwyfan unigryw, gan gynnig cipolwg y tu ôl i'r llenni ar sut mae ein cynhyrchiad ni'n cael ei wneud.
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond parodrwydd i roi cynnig arni.
Daw'r wythnos i ben gyda pherfformiad rhannu anffurfiol ar gyfer teulu a ffrindiau.
Cwestiynau Cyffredin yr Ysgol Haf
Beth ddylai fy mhlentyn ei wisgo?
Gwnewch yn siŵr bod eich person ifanc yn gwisgo dillad cyfforddus y gall symud ynddyn nhw, fel legins neu drowsus loncian, a hefyd esgidiau addas fel esgidiau hyfforddi.
Beth am ginio?
Dylai'r cyfranogwyr ddod â phecyn cinio hefo nhw. Mae egwyl o 30 munud i gael cinio wedi'i threfnu bob dydd.
Pryd mae'r rhannu?
Bydd y rhannu anffurfiol yn digwydd am 2:30pm ar y pnawn Gwener.
Pwy fydd yn arwain y sesiynau?
Bydd y sesiynau'n cael eu harwain gan Gysylltiadau Creadigol profiadol Theatr Clwyd.