
Drama a Chreadigrwydd 10, 11 a 12
Mercher 24 Medi 25 - Mercher 1 Gorff 26
Ar gyfer pawb ym mlynyddoedd ysgol 10, 11 a 12
Cyfle i archwilio eich creadigrwydd a dysgu am greu theatr gyda thîm Theatr Clwyd o artistiaid ac arweinwyr gweithdai talentog. Gallwch ddisgwyl cael rhoi cynnig ar lawer o wahanol brofiadau – o actio a dawnsio i gerddoriaeth a gwaith sgript, a mynd tu ôl i’r llenni hyd yn oed efallai.
Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn rhannu straeon, yn chwerthin, yn datblygu hyder, ac yn gwneud ffrindiau newydd.

Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?
Mae'r grŵp hwn yn rhedeg ar y diwrnod a nodir isod.
Tymor yr Hydref: Dydd Llun 23 Medi – Sad 21 Rhagfyr 2024
Hanner Tymor: 28 Hydref – 2 Tachwedd (Dim sesiynau)
Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025
Hanner Tymor: 24 Chwefror – 1 Mawrth (Dim sesiynau)
Tymor yr Haf: Dydd Llun 28 Ebrill – Sad 5 Gorffennaf 2025
Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025
Faint mae’n gostio?
|
Bwrsari
Bwrsari
Mae'n hanfodol i ni bod ein holl grwpiau ni’n hygyrch i bawb. Mae Theatr Clwyd yn cynnig amrywiaeth o fwrsarïau i gynorthwyo gyda chefnogaeth ariannol i alluogi cyfranogwyr i gael mynediad i’n gweithdai a’n gwersi cymunedol ni.
Nid yw ein bwrsarïau ni’n destun prawf modd ond maen nhw’n cael eu rhannu fesul achos. Os hoffech chi ddangos diddordeb mewn derbyn bwrsari, llenwch ein holiadur byr ni drwy Glicio Yma a byddwn yn adolygu eich cais.
Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi rhag cymryd rhan, fel mynediad neu broblemau gyda theithio, anfonwch e-bost i box.office@theatrclwyd.com ac fe wnawn ni ein gorau glas i helpu.
| Monthly | ||
Bwrsari o 25% Lle gyda chefnogaeth | £243.00 | £20.25 | |
Bwrsari o 50% | £162.00 | £13.50 |
Gostyngiadau
Gostyngiadau Eraill o 25%:
- Gostyngiad i Frodyr a Chwiorydd (plentyn cyntaf yn talu’n llawn, ail blentyn yn cael 25% i ffwrdd)
- Ymunwch â mwy nag un grŵp
Bydd archebu’n agor ym mis Medi!
Cofrestrwch yma i fod y cyntaf i glywed am leoedd ar gael.