Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref
Oherwydd galw mawr, mae The Menace o The Chase ar ITV yn dod â'i sioe gwis i Theatr Clwyd!
Mae dyddiadau ychwanegol wedi cael eu trefnu oherwydd galw mawr! Byddwch yn barod am brofiad cwis cyffrous, cyflym ac unigryw wrth i Darragh Ennis - seren The Chase - gymryd yr awenau yn The Ultimate Pub Quiz.
Mae pob sioe yn gwahodd y gynulleidfa i brofi eu gwybodaeth mewn lleoliad tafarn llawn egni gyda digon o her a chwerthin.
Mae Darragh, sy'n adnabyddus am ei ffraethineb miniog a'i allu mewn cwis, yn arwain y bwrlwm drwy rowndiau niferus o gwestiynau sy'n cynnwys gwybodaeth gyffredinol, y byd pop, hanes, a mwy.
Gallwch ddisgwyl sawl syrpreis, cellwair, a digon o eiliadau a fydd yn eich cadw chi ar ymyl eich sedd.
Mae'r cwis yn digwydd ar ap Redtooth Smart Quiz, felly argymhellir bod y cwsmeriaid yn ei lawrlwytho cyn cyrraedd y lleoliad i sicrhau profiad hwylus a chyffrous.
A dyma'r tro yn y gynffon: bydd un aelod o'r tîm buddugol yn cael y cyfle i fynd benben â Darragh ei hun - am y cyfle i ennill £50 o'i arian ei hun!
Os ydych chi'n bencampwr cwis neu ddim ond yn hoff o trivia tafarn, mae The Ultimate Pub Quiz yn addo bod yn siwrnai fythgofiadwy. Codwch beint, setlo yn eich sedd a gweld oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i guro her cwis eithaf Darragh ei hun!