Dawns ar gyfer Parkinson’s - Ar-lein

Mawrth 26 Medi - Mawrth 2 Gorf

Dawns ar gyfer Parkinson’s - Ar-lein

Ymunwch â ni o’ch cartref am awr o ddawns, symud a cherddoriaeth fyw sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer Pobl sy’n byw gyda Parkinson’s, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae ein sesiynau Dawns Ar-lein ar gyfer Parkinson’s yn eich gwahodd i symud mewn ffordd sy’n teimlo’n dda i chi. Rydym yn cynnwys ymarferion eistedd a sefyll y gellir eu haddasu i anghenion unigolion ac sy'n hygyrch i bawb.

Rydym yn llifo trwy wahanol ymarferion symud a delweddaeth greadigol i ddod â'n dychymyg yn fyw trwy symud. Mae'r sesiynau'n canolbwyntio ar ddod o hyd i lif, cryfder a mynegiant trwy symud gyda chefnogaeth cerddoriaeth fyw rymus.

Cyflwynir y sesiynau hyn dros ‘Zoom’ ac maent yn gyfle gwych i gysylltu â chymuned o bob rhan o Gymru o gysur eich cartref eich hun. I gael mynediad i'r sesiwn bydd angen dyfais arnoch sy'n cefnogi ‘Zoom’ e.e. gliniadur neu I-pad a chysylltiad rhyngrwyd. I gael y gorau o'r sesiwn, gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o le o'ch cwmpas, cadair gadarn, gwisgwch ddillad cyfforddus a bod gennych ychydig o ddŵr wrth law.

‘‘Mae wedi fy helpu i ymlacio a gwella fy hyder.’’

‘’Mae’n rhywbeth dw i’n edrych ymlaen ato bob wythnos – doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n ei fwynhau ar y dechrau ond roeddwn i’n anghywir. Rwy’n meddwl ei fod yn wych ac rwy’n edrych ymlaen ato bob wythnos.’’

‘‘Ffordd i fynegi cariad, ofn, hapusrwydd, ymdeimlad o lawenydd a ffordd o ddod at ein gilydd’"

I Gofrestru? Cliciwch yma

Cyswllt? takepart@theatrclwyd.com