Cwmni17

26 Medi - 2 Gorff

Ar gyfer pawb 17 i 29 oed

Cyfle i archwilio eich creadigrwydd eich hun a dysgu am greu theatr gyda thîm o artistiaid dawnus a gweithwyr theatr proffesiynol Theatr Clwyd. Yn ystod y tymor cyntaf byddwch yn gwneud ffrindiau newydd ac yn datblygu eich sgiliau. Yn yr ail dymor byddwn yn adeiladu ar ddosbarthiadau meistr a gweithdai.

Yn olaf, yn y tymor olaf, byddwn yn creu sioe (perfformiad ar y llwyfan yn ddewisol).


Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?

Dyddiadau Tymor 23-24

Tymor yr Hydref: Maw 25 Medi 2023 – Sad 16eg Rhag 2023

  • Hanner Tymor: 30 Hyd 2023 - 4 Tach 2023 (Dim sesiynau)

Tymor y Gwanwyn: Llun 15 Ion 2024 – Sad 23 Maw 2024

  • Hanner Tymor: 12 Chwef 2024 - 17 Chwef 2024 (Dim sesiynau)

Tymor yr Haf: Llun 8 Ebrill 2024 – Sad 6 Gorff 2024

  • Hanner Tymor: 27 Mai 2024 - 1 Meh 2024 (Gweithgareddau Perfformiad)



Faint mae’n gostio?


Bwrsarïau

Mae'n hanfodol i ni bod unrhyw un yn gallu cael mynediad i'n grwpiau a bydd ein cynllun bwrsari heb gwestiynau yn parhau yn ei le eleni. Mae’r cynllun yma’n eich galluogi chi i dalu’r pris llawn o £220 y flwyddyn, gwneud cais am 25% o ostyngiad a thalu £165 y flwyddyn, gwneud cais am 50% o ostyngiad a thalu £110 y flwyddyn neu wneud cais am fwrsari 100% a thalu dim.

Mae gennym ni dair lefel o fwrsari sy’n cynnig gwahanol lefelau o ostyngiad.

Cost Flynyddol

Debyd Uniongyrchol Misol

Cost Lawn pris safonol

£220.00

£20.00

Bwrsari o 25%

Lle gyda chefnogaeth

£165.00

£15.00

Bwrsari o 50%
Lle gyda chefnogaeth

£110.00

£10.00

Bwrsari o 100%
Lle gyda chefnogaeth

£0.00

£0.00


Nid oes gennym broses ymgeisio fanwl am fwrsarïau gan ein bod yn ymddiried ynoch chi i dalu’r hyn y gallwch ei fforddio. Diolch i'ch gonestrwydd chi gall y rhai sydd angen ychydig o help gael y gostyngiad sydd arnynt ei angen i gymryd rhan. Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi rhag cymryd rhan, fel mynediad neu broblemau gyda theithio, anfonwch e-bost at takepart@theatclwyd.com ac fe wnawn ein gorau glas i helpu


Archebu

I archebu, cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01352 344101

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.

E-bost: box.office@theatrclwyd.com

Ffôn: 01352 344101