Mewn caffi bach ym Mharis, mae Amélie, merch hynod annwyl ond poenus o swil, yn darganfod ar ddamwain bod ganddi ddawn i helpu eraill. Yn fuan iawn, mae Amélie yn treulio ei dyddiau fel ciwpid, angel gwarcheidiol, a pherson llawn daioni i bawb. Ond pan mae hi'n dod ar draws dieithryn golygus, a fydd hi'n dod o hyd i'r dewrder i ddod yn seren ei stori garu ei hun?
Mae Escapesyn cynnig cyfle i bawb gamu allan o fywyd bob dydd ac i mewn i hud y sinema - am ddim!
Gyda chefnogaeth y BFI, sy'n dyfarnu cyllid y Loteri Genedlaethol, mae Escapes yn fenter genedlaethol sy'n gwneud sinema yn fwy hygyrch i bawb. Gyda dangosiadau mewn nifer fawr o sinemâu annibynnol ledled y DU, Escapes yw eich gwahoddiad chi i ymlacio a chael eich cludo i straeon ar y sgrin fawr. O ragddangosiadau cyffrous o ffilmiau newydd a ffilmiau mawr poblogaidd i raglenni dogfen sy'n procio’r meddwl, mae pob ymweliad yn cynnig cyfle i ddianc. Mae pob dangosiad yn cynnwys is-deitlau disgrifiadol, fel bod pawb yn gallu mwynhau'r profiad.
Digwyddiad Am Ddim, Cliciwch yma - Escapes
