Gan ehangu ar y byd a grëwyd gan Danny Boyle ac Alex Garland yn 28 Years Later - ond gan droi'r byd hwnnw ar ei ben - mae Nia DaCosta yn cyfarwyddo 28 Years Later: The Bone Temple.
Mewn parhad o'r stori epig, mae Dr. Kelson (Ralph Fiennes) yn canfod ei hun mewn perthynas newydd syfrdanol - gyda chanlyniadau a allai newid y byd fel maen nhw'n ei adnabod - ac mae cyfarfyddiad Spike (Alfie Williams) â Jimmy Crystal (Jack O'Connell) yn dod yn hunllef na all ddianc rhagddi. Ym myd The Bone Temple, nid y rhai wedi’u heintio yw'r bygythiad mwyaf i oroesiad mwyach - gall annynoldeb y goroeswyr fod yn rhyfeddach ac yn fwy brawychus.


