Codi arian ar gyfer Theatr Clwyd

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan a helpu i ailddatblygu Theatr Clwyd. Un ffordd yw cynnal eich digwyddiad codi arian eich hun.

Gallai hyn gynnwys cynnal te prynhawn neu agor eich gardd i ffrindiau a theulu neu, i'r jynci adrenalin, neidio oddi ar blatfform. Pa bynnag ffordd rydych chi eisiau codi arian i Theatr Clwyd, rydyn ni yma i'ch helpu chi.

Syniadau ac ysbrydoliaeth
Ofn uchder?

Wynebwch yr ofn gyda naid dandem noddedig yn ZipWorld ar Plummet 2 gyda naid anhygoel ar blatfform 100m

Hapus i dorchi eich llewys?

Golchwch geir, glanhau ffenestri, torri'r lawnt. Rhowch bris ar yr holl dasgau a chodi arian ar gyfer y gwaith ailddatblygu.

Angen trefn ar eich pethau?

Sêl sborion fodern, rhowch drefn ar unrhyw ddillad diangen a'u gwerthu ar Ebay neu Vinted.

Amser gwisgo fyny?

Heriwch eich hun i wisgo fel cymeriadau theatr eiconig am wythnos. O Shakespeare ar ddydd Llun i Elsa ar ddydd Sul - mae llawer o hwyl i'w gael.

Beth ydi’ch her chi?

O farathonau yn Eryri i rasys beicio yn Swydd Gaer, mae digon o ddigwyddiadau heriol i ddewis o’u plith.

Te a chacen unrhyw un?

Rhowch gynnig ar bobi (neu brynu) danteithion i gynnal te prynhawn. Gardd braf? Dangoswch eich blodau hefyd!

Angen rhyddhau eich creadigrwydd?

Slam barddoniaeth neu noson jam, beth bynnag yw eich dawn, gadewch iddi ddisgleirio a chodi arian hanfodol ar gyfer y gwaith ailddatblygu.

Pwy wnaeth?

Cynhaliwch noson dirgelwch llofruddiaeth a chwarae ditectif wrth geisio darganfod pwy o'ch ffrindiau y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw – neu ddim.

Syniadau i helpu eich digwyddiad i redeg yn esmwyth a chodi cymaint o arian â phosibl:

  • Sefydlwch dudalen JustGiving (justgiving.com), mae’n hawdd ei rhannu gyda ffrindiau a theulu ac mae’n casglu’r holl roddion ar eich rhan chi.
  • Gwnewch eich targed codi arian yn un y gallwch ei gyrraedd. Gallwch ei gynyddu yn nes ymlaen os bydd angen
  • Gofynnwch i'ch noddwr mwyaf eich noddi chi gyntaf - mae'n helpu i ysbrydoli cyfranwyr eraill!
  • Casglwch rodd cymorth ar ffurflenni nawdd, sydd ar gael i’w lawrlwytho yma. Gall hyn ychwanegu 25% at y swm a godir.
  • Rhannwch eich stori. Beth mae Theatr Clwyd yn ei olygu i chi?
  • Defnyddiwch eich sgiliau. Os ydych chi'n hoffi bod o flaen y camera, efallai mai'r her 7 diwrnod mewn gwisg ffansi yw’r un i chi ond os mai planhigion sy’n mynd â’ch bryd chi, dewiswch gynnal parti gardd.
  • Cadwch bethau’n gyfreithlon, lawrlwythwch y daflen yma gyda gwybodaeth am sut i gadw eich digwyddiad yn ddiogel ac yn gyfreithlon.
  • Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r hyn rydych chi'n ei wneud. #ChwaraeEichRhan

Os hoffech chi godi arian ac os ydych chi eisiau cyngor a chefnogaeth, cysylltwch â Janine Dwan, neu Lily Peers-Dent.