Rhoi rhodd

Cyfrannwch heddiw i fod yn rhan o ddyfodol Theatr Clwyd

Mae hwn yn brosiect mawr – mae’n gorfod bod – bydd yn newid bywydau, yn cyfrannu at yr economi, yn meithrin artistiaid a gweithwyr creadigol, yn ysbrydoli dychymyg, yn cefnogi pobl agored i niwed yn ein cymuned ac yn creu theatr anhygoel. Mae’n brosiect cyffrous ac uchelgeisiol sy’n cael ei wneud yn haws gan ein penseiri o safon byd a’n tîm ffenomenal.

Ond mae arnom ni angen help.

Rhaid i ni godi £5m i sicrhau bod y prosiect, sydd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn digwydd. Mae arnom angen y meddyliau gorau a disgleiriaf, pobl â gweledigaeth a syniadau, i gynnig geiriau cyfeillgar o gyngor, a all ein cysylltu ag unigolion neu sefydliadau a all helpu.

Rhoi rhodd

symudwch y llithrydd i addasu eich cyfraniad

Teipiwch yn y blwch i osod eich swm

Donation

Fel elusen gofrestredig, sef Theatr Clwyd Trust (Elusen Gofrestredig Rhif 1189857), gallwn hawlio Rhodd Cymorth ar eich rhodd. Mae Rhodd Cymorth yn ffordd wych o allu rhoi ychydig mwy heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Os ydych chi’n gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth, gallwn hawlio 25% gan CThEM ar ben eich rhodd. Bydd eich rhodd o £10 i ni yn werth £12.50!

Ffyrdd o Gefnogi


Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am gefnogaeth gan Ymddiriedolaethau a Sefydliadau. Dylai pob ymholiad gan Ymddiriedolaethau a Sefydliadau gael ei gyflwyno i Gyfarwyddwr yr Ymgyrch Gyfalaf, zoe.crick-tucker@theatrclwyd.com

Os oes ymholiadau am gefnogi ein hymgyrch codi arian gydag anrheg gan unigolion neu fusnesau, cysylltwch â'r Rheolwr Datblygu, claire.pilsbury@theatrclwyd.com


Main image by Daffyd Owen. Dressing room image: Our architects, Haworth Tompkins work at the Everyman, photography by Philip Vile. Name a Seat image: Anthony Hopkins Theatre by Theatr Clwyd. Name a tile image: by Daffyd Owen. Production image: Junkyard, a Headlong, Theatr Clwyd, Bristol OId Vic, Rose Theatre Kingston production, photography Manuel Harlan.