Rhian Blythe
Rhian yw Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Cymru.
Bu’n aelod o Awenau – cynllun mentora ar gyfer cyfarwyddwyr newydd gan Theatr Cymru yn 2019 – ac ers hynny, mae wedi cyfarwyddo Byth Bythoedd Amen gan Mared Jarman a Swyn gan Krystal S. Lowe ar gyfer Theatr Cymru, yn ogystal â Rŵan/Nawr yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 a Ha/Ha y llynedd i Theatr Cymru a Theatr Clwyd. Rhian hefyd gyfarwyddodd Enfys gan Melangell Dolma, drama feicro ddigidol i BBC Cymru Fyw a Theatr Cymru, Croendena gan Mared Llywelyn ar gyfer Frân Wen, a Helo?! a Noson yn y Glwys ar gyfer WAVDA.