
Blynyddoedd 10 ac 11 - Wythnos Profiad
Blynyddoedd 10 ac 11 - Wythnos Profiad Gwaith
Oes gennych chi ddiddordeb yn y theatr?
Wythnos llawn gweithgareddau i ddod draw ac ymchwilio i bob adran. Byddwch yn archwilio pob adran o Gynhyrchu i Ymgysylltu Creadigol ac yn darganfod mwy am y diwydiant theatr.
• Cyfle i gael cipolwg ar sut mae’r theatr yn gweithio ac yn cael ei rhedeg
• Cwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant
• Mynychu gweithdai a arweinir gan bob adran
• Cysylltu â phobl ifanc sydd â diddordeb ym myd y theatr
Mae ein ceisiadau ar gyfer wythnos Profiad Gwaith bellach wedi cau. r
Bydd ceisiadau yn ail-agor ar 23 Hydref
Adrannau Theatr Clwyd:-
Marchnata a Chyfathrebu
Cynhyrchu a Rhaglennu
Cynhyrchu
Cyllid
Gweithrediadau
Ymgysylltu Creadigol
Cerddoriaeth
Datblygiad