Cael mwy o'ch ymweliad!

Bydd Aelodaeth yn eich helpu i gael mwy o'ch ymweliad ac yn cefnogi'r gwaith rydym yn wneud!

Mae ein cynllun aelodaeth ar gau i aelodau newydd ar hyn o bryd - bydd cynllun newydd ar agor o wanwyn 2025 ymlaen.


Current Members

Os ydych chi’n aelod presennol o Theatr Clwyd a bod eich aelodaeth yn dod i ben ar ôl dydd Llun 9fed Ebrill 2024, darllenwch ymlaen.

Byddwn yn lansio aelodaeth newydd yng ngwanwyn 2025 gyda buddion ychydig yn wahanol mewn pryd ar gyfer agor ein hadeilad wedi’i ailddatblygu yng nghanol 2025.

Rydyn ni wedi penderfynu y byddwn ni’n gwneud estyniad am ddim i bob aelodaeth weithredol (ar 9fed Ebrill 2024) hyd at ddiwedd mis Ebrill 2025 (bydd pob aelodaeth weithredol yn dod i ben ar 30 Ebrill 2025) – mae hyn yn golygu y bydd eich aelodaeth chi’n rhedeg am gyfnod hirach nag ydych chi wedi talu amdano, ond yn bwysig iawn byddwch yn cael blaenoriaeth i archebu tocynnau ar gyfer ein sioeau ni yn yr hydref, tymor agoriadol 2025 a’n panto ni yn 2025/26. Byddwn hefyd yn eich gwahodd chi i brofi digwyddiadau yn ein hadeilad wedi’i ailddatblygu (theatrau, sinema a phopeth!), i deithiau cefn llwyfan ac yn anfon cyfleoedd atoch chi i fod yn un o’r rhai cyntaf i roi cynnig ar ein bwyty newydd ni pan fydd yn agor.


Bydd eich buddion yn parhau fel y rhestrir isod tan fis Ebrill 2025. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch box.office@theatrclwyd.com

  • Blaenoriaeth wrth archebu’r panto
  • Archebu blaenoriaeth
  • 5% ychwanegol oddi ar danysgrifiad
  • Gostyngiad o 10% yn y siop/bar/bwyd
  • Digwyddiad blynyddol i aelodau
  • Cylchlythyr yr Aelodau
  • Ardal aelodau ar-lein

*Yn unol â Thelerau ac amodau


Archebu Tocynnau Ymlaen Llaw gydag Aelodaeth

Ar ôl i chi ddod yn aelod, bydd eich cyfrif yn galluogi i chi i fanteisio ar archebu blaenoriaeth yn awtomatig.

Eisiau cefnogi mwy ar Theatr Clwyd?

Mwy o wybodaeth am sut gallwch chi ein helpu ni i greu cynyrchiadau o safon byd, cefnogi talent newydd ac addawol, a chyflwyno’r gwaith cymunedol pwysig rydym yn ei wneud. Ymweld â'n tudalen Rhoi