Credydau Amser

Oeddech chi’n gwybod bod posib mynychu llond gwlad o sioeau sydd i ddod yn y theatr gan ddefnyddio Credydau Amser? Mae Credydau Amser yn cydnabod y gwaith rhyfeddol sy’n cael ei wneud gan bobl ar ran eu cymunedau, drwy ysbrydoli ieuenctid neu drwy ofalu am yr amgylchedd. Diolch i chi am ddewis ein theatr ni i ddefnyddio eich Credydau Amser yr ydych chi wedi eu llawn haeddu.

Cyfnewid eich Credydau Amser
­­­­­­­­­­­­­­­­Gallwch gyfnewid eich Credydau Amser am docynnau drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01352 344101, a byddwch yn gallu archebu tocynnau ar gyfer y sioe o’ch dewis chi sydd ar gael. Dewch â’ch Credydau Amser gyda chi i’r swyddfa docynnau ar ddiwrnod y sioe i’w cyfnewid nhw am y tocynnau. Yn anffodus, nid oes posib i chi ddefnyddio eich Credydau Amser ar ein gwefan ni ar hyn o bryd – rydyn ni’n ymddiheuro am hyn.

Gallwch weld y sioeau sydd ar gael, a nifer y Credydau Amser sydd eu hangen i’w cyfnewid am docyn, isod: