BWRDD CYNGHORI IEUENCTID THEATR CLWYD

Ydych chi'n caru’r theatr? Ydych chi'n caru'r celfyddydau? Ydych chi eisiau i'ch llais chi gael ei glywed?

Os ydych chi’n berson ifanc 11 i 25 oed ac eisiau lleisio eich barn am yr hyn sy’n digwydd yn Theatr Clwyd, dyma’r cyfle i chi.

Mae Theatr Clwyd eisiau recriwtio 8 o bobl ifanc i'w Bwrdd Cynghori Ieuenctid newydd. Mae pobl ifanc yn rhan hanfodol o Theatr Clwyd ac rydyn ni eisiau i chi gael effaith ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud a phwy ydyn ni, nawr ac yn y dyfodol.


Beth yw'r Bwrdd Cynghori Ieuenctid?

Mae’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid yn grŵp o bobl ifanc a fydd yn helpu i lunio dyfodol Theatr Clwyd. Bydd y Bwrdd Cynghori Ieuenctid yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn (gyda’r nos, am 3 awr bob tro) i drin a thrafod beth sy’n digwydd yn Theatr Clwyd nawr a beth sydd angen digwydd nesaf…

Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc o ystod amrywiol o oedrannau, rhywedd, cefndiroedd ac ethnigrwydd. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod lleisiau pawb yn cael eu clywed a’n bod ni’n gweithredu yn eu cylch, pwy bynnag ydych chi, beth bynnag ydi’ch cefndir chi, a beth bynnag ydi’ch oedran (rhwng 11 a 25).

Unwaith y caiff ei ffurfio, bydd y Bwrdd Cynghori Ieuenctid yn ethol dau o'i aelodau sydd dros 18 oed i fod yn Gadeirydd ac yn Ddirprwy Gadeirydd. Bydd y ddau berson yma hefyd yn aelodau o Fwrdd Ymddiriedolwyr Theatr Clwyd (grŵp o unigolion sy’n gyfreithiol gyfrifol am lywodraethu Theatr Clwyd).


Oes posib i mi wneud cais?

Os ydych chi’n caru unrhyw un neu bob un o'r theatr, cerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, sinema, comedi a'r gair llafar, rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn unrhyw un neu bob agwedd ar y celfyddydau – cefn llwyfan ac ar y llwyfan, marchnata, codi arian, cynllunio, creu setiau a gwisgoedd, cyfarwyddo, ysgrifennu, dawnsio, actio, rheoli llwyfan a blaen tŷ – rydyn ni eisiau i chi wneud cais.

Mae angen i chi fod rhwng 11 a 25 oed a byw 30 munud neu lai i ffwrdd yn y car (fe allwn ni drefnu a thalu am gludiant).


Sut byddaf i yn elwa?

  • Cyfle i ddarganfod sut mae Theatr Clwyd yn gweithio o'r tu mewn.
  • Gwahoddiad i'n holl nosweithiau i westeion ni yn y theatr.
  • Cludiant wedi'i drefnu a’i dalu gennym ni.
  • Peth gwych i’w roi ar eich CV!

Beth fydd raid i mi ei wneud?

Dod i gyfarfod o’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid 4 gwaith y flwyddyn (am 3 awr gyda'r nos bob tro) i helpu i siapio a dylanwadu ar y sefydliad.

Dal y swydd yma am 18 mis.


Sut mae gwneud cais?

Rhowch wybod i ni pam fod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn yn Theatr Clwyd a pham yr hoffech fod yn rhan o’n Bwrdd Cynghori Ieuenctid.

Rydym yn derbyn y ceisiadau hyn ym mha bynnag fformat sy'n gweithio orau i chi. (Cyswllt fideo byr, portffolio artistig, neu CV a Llythyr Clawr)

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau ein harolwg Cyfleoedd Cyfartal.

Mae ceisiadau yn cau ddydd Gwener 7 Gorffenaf